Does dim llawer o amser ar ôl nawr! Os nad ydych eisoes wedi sicrhau eich lle yn ras eleni, rhaid i chi wneud hynny cyn 31 Awst fan bellaf.
Teimlo’n ansicr?
Peidiwch â bod! Gall hyfforddwyr ffitrwydd cymwys yn Chanolfan Abertawe Actif eich paratoi ar gyfer y ras gyda’u rhaglenni hyfforddi 10k arbenigol. Wedi’u creu i ddiwallu pob gallu o ddechreuwyr pur i redwyr profiadol, mae’r rhaglenni’n cynnwys pob math o gyngor defnyddiol. Os oes angen gwybodaeth am faeth neu gyngor ar yr hyn i wisgo, neu arweiniad ar dechnegau rhedeg a sut i atal anaf, dyma’r lle i chi. Maent hefyd wedi paratoi nifer o ganllawiau ar-lein/cynlluniau hyfforddi am ddim a byddant yn gweithredu fel ffynhonnell ysgogi ddiddiwedd – byddwch yn hedfan dros y llinell derfyn!
Ystyrir bod y ras yn un o brif rasys ffordd y DU, sy’n daith wastad, gyflym gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe – llawer gwell na syllu ar wal y gampfa! Yn ogystal â’r 10k, mae rasys iau 1k, 3k a 5k.
Dal i deimlo’n ansicr?
Mae eisoes wedi cael ei brofi y gall ymarfer corff rheolaidd megis hyfforddi ar gyfer ras 10K fod yn dda i’ch iechyd corfforol a meddyliol.
Peidiwch â gwrando arnom ni’n unig. Yn ddiweddar, buom yn siarad â Luke Zasikowski, Ymgynghorydd Yswiriant ar gyfer noddwyr y ras, Admiral. Rhedwr profiadol sydd wedi rhedeg marathon, chwe hanner marathon, wyth ras 10k, a nifer o rasys 5 milltir o amgylch ei ardal frodorol, Caerdydd, mae Luke wedi profi manteision iechyd corfforol a meddyliol sylweddol ers dechrau ymarfer corff yn rheolaidd. Nid yn un i golli cyfle, gofynnwyd iddo rannu rai o’i brif awgrymiadau hyfforddi personol (a beth ddenodd bachgen a aned ac a fagwyd yng Nghaerdydd i Abertawe)…
Mae’n amlwg dy fod yn mwynhau rhedeg a bod gen ti lawer o brofiad, ond nid wyt wedi cymryd rhan yn ras 10K Bae Abertawe o’r blaen. Beth sydd wedi dy ysgogi i ddod i’r gorllewin a chofrestru eleni?
Mae llawer o bobl wedi dweud wrthai ei fod yn ddigwyddiad gwych, a gan fy mod wedi rhedeg hanner marathon Casnewydd, a noddwyd gan Admiral, roeddwn am brofi’r awyrgylch yn Abertawe. Hefyd fel bachgen o Gaerdydd, roeddwn yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd dinesig arnaf i redeg yn Abertawe, o leiaf unwaith yn fy mywyd, er mwyn peidio â dangos drwgdeimlad!
Wyt ti wedi sylwi ar unrhyw welliannau i dy iechyd ers dechrau rhedeg?
Ydw, llawer. Mae rhedeg wedi fy ngwneud yn llawer cryfach. Rwy’n cysgu’n well ac yn dal llai o afiechydon tymhorol. Rwy’n dioddef o bryder ac iselder, ond ers i mi ddechrau hyfforddi a gwella fy iechyd a’m ffitrwydd, mae’n llawer mwy cytbwys sy’n wych.
A oes gen ti unrhyw awgrymiadau personol a allai helpu rhedwyr llai profiadol/rhedwyr am y tro cyntaf yn ras eleni?
- Ewch i brynu esgidiau rhedeg mewn siop arbenigol leol i osgoi/leihau anaf posib.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi hydradu’n dda bob amser.
- Cwblhewch 10% o’ch hyfforddiant yn droednoeth ar laswellt i helpu eich techneg.
- Peidiwch â bwyta o leiaf awr cyn rhedeg.
- Peidiwch â gofidio llawer am eich amser, rhedwch am hwyl.
- Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, Mwynhewch!
Yn olaf, oes gen ti unrhyw gynlluniau ar ôl 10K Abertawe, neu a wyt ti’n cymryd seibiant haeddiannol?!
Ydw, rwy’n gobeithio rhedeg marathon Ultra o fewn y 12 mis nesaf (30+ o filltiroedd)!
Nawr eich bod wedi cael eich darbwyllo, peidiwch ag oedi cofrestrwch yn syth. Welwn ni chi wrth y llinell ddechrau!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English