Canolfan Dylan Thomas
Mae wythnos llawn gweithgareddau ar y gweill yng Nghanolfan Dylan Thomas. Galwch heibio bob dydd rhwng 10am a 4pm ar gyfer gweithgareddau hunanarweiniedig, neu dewch draw i’n gweithdai i deuluoedd ar Anifeiliaid Dylan. Bydd yr awdur plant, Eloise Williams, hefyd yn ymuno â ni am weithdy ysgrifennu Ynysoedd Hudol.
Parth Anifeiliaid: Antur Coedwig Law
21 – 23 Chwefror, Plantasia
Dewch i ddysgu am bwysigrwydd gofalu am goedwigoedd glaw y byd a’u gwarchod, a dewch wyneb yn wyneb ag ymlusgiaid a chreaduriaid di-asgwrn-cefn y goedwig law.
Archebwch docynnau nawr
Gweithdai Hanner Tymor Amgueddfa Abertawe
Yn ystod yr hanner tymor hwn yn Amgueddfa Abertawe, dewch i ddysgu am y ‘Llewgi’ a ffafriwyd gan Ymerawdwyr Tsieineaidd yn ein gweithdy Tsieineaidd, neu dewch i greu magnetau oergell sgarab a hieroglyffau yn y Diwrnod Eifftoleg.
Hwyl gwyliau hanner tymor
Mae gennym ddigonedd o weithgareddau difyr i gadw’r plant yn brysur yn ystod hanner tymor mis Chwefror yng nghanolfannau hamdden Abertawe Actif. Dewch i gael hwyl yn y dŵr gyda sesiynau nofio am ddim, gymnasteg, pêl-rwyd, sglefrolio a hyd yn oed gwersylloedd gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol yr Elyrch a mwy.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English