Mae gan bobl y cyfle i roi rhodd Nadolig wahanol eleni drwy enwebu tîm neu berson ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2017.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau sef 31 Rhagfyr yn nesáu, gyda chategorïau gwobrau gan gynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 15 blynedd.
Mae categorïau eraill yn cynnwys Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn, Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn, Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn a Thîm Ysgol Uwchradd y Flwyddyn.
Bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu Chwaraewr y Flwyddyn, yn ogystal â chategorïau ar gyfer Chwaraewr Iau a Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gyda diwedd 2017 ychydig o wythnosau’n unig i ffwrdd, dyma amser i fyfyrio ar flwyddyn lwyddiannus arall o chwaraeon yn Abertawe.
“P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.
“Dyma pam y byddwn yn annog unrhyw un sy’n credu bod tîm neu unigolyn yn haeddu gwobr i gysylltu â ni erbyn 31 Rhagfyr i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer cydnabyddiaeth ledled y ddinas.
“Byddai enwebu person neu dîm ar gyfer Gwobr Chwaraeon Abertawe 2017 yn y cyfnod cyn y flwyddyn newydd yn anrheg Nadolig wych a gwahanol.”
Roedd yr enillwyr yn 2016 yn cynnwys rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a enillodd wobr Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn, a’r nofiwr Paralympaidd Aaron Moores MBE, a enillodd fedal aur yng Ngemau Paralympaidd 2016 yn Rio cyn cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn. Ymhlith yr enillwyr eraill oedd David Smith MBE, buddugwr medal aur yn y Gemau Paralympaidd; y nofiwr Paralympaidd Chloe Davies; y gwirfoddolwr Karen Gibbins (beicio); a’r hyfforddwr cymunedol Zoe Hill (pêl-rwyd).
Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Fercher, 14 Mawrth 2018 yn Neuadd Brangwyn.
I weld y rhestr lawn o gategorïau ac i enwebu, ewch i www.abertawe.gov.uk/gwobrauchwaraeon