Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth yn Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2018.
Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy’n cynnal yr atyniad, sy’n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe, a bydd ar agor rhwng 11am a 5pm bob dydd o ddydd Sul 1 Ebrill tan 30 Medi.
Mae digwyddiadau sydd ar y gweill fel rhan o haf llawn hwyl yn cynnwys Helfa Wyau Pasg a Diwrnod o Grefftau Hwyl ar ddydd Sul y Pasg, a Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd ddydd Sadwrn 7 Ebrill.
Bydd ymwelwyr yn gallu mynd yn ôl mewn amser i gael blas ar fywyd canoloesol ar 14 Ebrill mewn un o nifer o ddigwyddiadau’r Pasg a gynhelir y tu ôl i waliau’r castell.
Mae nodweddion y castell yn cynnwys hen waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Benrhyn Gŵyr gael ei gipio gan y Normaniaid. Roedd Brenin Edward I, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â’r castell am ychydig ym mis Rhagfyr 1284.
Mae’r siop anrhegion wedi’i hailwampio ar gyfer y tymor newydd er mwyn cynnwys anrhegion a chofroddion, gan gynnwys nwyddau newydd ‘Oystermouth Hero’, sy’n arbennig ar gyfer y castell, ac yn cynnwys delwedd fodern o’r castell ar gwpanau, llieiniau sychu llestri, matiau diod, printiau, cardiau nodiadau, magnetau a chylchau allweddi.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r cyngor yn gweithio’n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy’n addas i deuluoedd bob haf.
“Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell Ystumllwynarth yr haf diwethaf i fwynhau detholiad o weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg eleni. Mae’r castell yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr sydd yr un mor hwyl ag y mae’n addysgol, ac mae’n rhoi hwb i dwristiaeth yn Abertawe hefyd.”
Mae digwyddiadau eraill sydd ar y gweill yn hwyrach yn y flwyddyn yn cynnwys Diwrnod Difyr i Deuluoedd ar 5 Mai, Diwrnod Hwyl Archaeoleg ar 21 Gorffennaf a Diwrnod Sgiliau a Chrefftau Traddodiadol ar 27 Awst.
Cynhaliwyd cynllun cadwraeth sylweddol yng Nghastell Ystumllwynarth yn y blynyddoedd diweddaf gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru drwy Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cefnogwyd y cynllun gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am fwy o wybodaeth am y castell a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.