1 – Sglefrio iâ ar lyn iâ Admiral
Dyma’r ffordd berffaith i dreulio diwrnod neu noson o aeaf, yn sglefrio ar iâ go iawn a chael rhywfaint o hwyl yr ŵyl dros dymor y Nadolig!
Gallwch brynu tocynnau ar-lein, neu’n bersonol o lyn iâ Admiral neu Ganolfan Dylan Thomas. Ond pan fyddwch yn prynu ar-lein, gallwch archebu ymlaen llaw ac arbed arian o’i gymharu â phrynu wrth y gât.
Archebwch docynnau Sglefrio Iâ nawr
2 – Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Mae mwy na sglefrio iâ’n unig i edrych ymlaen ato yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau! Gyda’r olwyn fawr, cabanau sy’n cynnig bwyd a diod boeth a blasus, reidiau ffair a llawer mwy, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yw’r lle perffaith i gael hwyl yr ŵyl y gaeaf hwn!!
3 – Ymweld â Siôn Corn a phrynu anrhegion bach i lenwi hosanau ym marchnadoedd Nadolig canol y ddinas.
Bydd y cabanau gwyrdd a choch poblogaidd yn dychwelyd i ganol y ddinas y Nadolig hwn!
Y Nadolig hwn, bydd dros 40 o fasnachwyr yn cyrraedd i gynnig y dewis gorau o gelfyddydau, crefftau, rhoddion o waith llaw, bwydydd da, addurniadau Nadolig unigryw a phersonol a chymaint mwy.
Bydd ceirw Siôn Corn yn hedfan i’r ddinas ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr. Dewch i gwrdd â nhw ar Stryd Rhydychen o 11am tan 3pm.
4. Cyfle i fwynhau Nadolig Clasurol
Y Nadolig yng Ngolau Cannwyll
Mae’r digwyddiad hwn sydd wedi’i sefydlu’n un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol, yn ffefryn gan deuluoedd. Dewch i fwynhau gwydraid o win y gaeaf a mins pei fel tamaid i godi blys cyn i Alwyn Humphreys gyflwyno gwledd o ffefrynnau’r wˆyl gyda Ros Evans, Cerddorfa Siambr Cymru Chorale a llun o gerddorion.
Handel’s Messiah
Caiff y Messeiah, yr hoff oratorio Nadoligaidd gan Handel, sy’n cynnwys corysau hynod boblogaidd megis For Unto Us a Child is Born a’r Hallelujah Chorus, ei berfformio eleni gan Gôr Ffilharmonig Abertawe. Yr arweinydd fydd Jonathan Rogers ac ymhlith yr unawdrwyr bydd y soprano Céline Forrest a aned yn Abertawe.
5 – Mwynhau dau bantomeim gwych
Dick Whittington yn Penyrheol Theatre
Bydd y cynhyrchiad pantomeim trawiadol hwn gan Jermin Productions yn parhau am gyfnod byr yn Theatr Penyrheol o’r wythnos sy’n arwain at y Nadolig a bydd yn siŵr o wneud i chi a’ch teulu deimlo hwyl yr ŵyl …O bydd yn wir!! Mae Dick Whittington yn bantomeim gwych sy’n “berrr-ffaith”i’r holl deulu!
Sleeping Beauty yn Grand Theatre, Swansea
Oes modd i wir gariad oroesi ac i Prince Charming golygus dorri’r swyn? Ydy ffrind gorau doniol Awrora, o’r enw Muddles, yn gallu helpu i achub y dref a phwy fydd yn trechu’r ddewines ddrygionus ac atal ei chynlluniau ysgeler? Gyda hud a lledrith, cerddoriaeth, comedi ac effeithiau arbennig, Sleeping Beauty fydd pantomeim eich breuddwydion.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English