Wythnos o ddarllediadau byw, perfformiadau, enwogion yn ateb cwestiynau a gweithdai i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
Yn ystod yr wythnos cyn Y Penwythnos Mwyaf, bydd Theatr y Grand, Abertawe, yn troi’n ganolfan gyffrous ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant creadigol.
Cynhelir Y Penwythnos Mwyaf gan BBC Music ar benwythnos gŵyl y banc olaf mis Mai, a daw i Barc Singleton ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mai. Y digwyddiad hwn, a gaiff ei gynnal mewn pedair gwlad a thros bedwar diwrnod, fydd y dathliad cerddoriaeth mwyaf erioed gan y BBC ar deledu, radio, ar-lein ac ar ffonau symudol. Bydd perfformiadau yn Abertawe gan yr enwau enwocaf a mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth gan gynnwys Taylor Swift, Ed Sheeran, Niall Horan, Craig David, Jess Glynne, Wolf Alice, J Hus a llawer mwy.
Rhwng dydd Llun 21 a dydd Iau 24 mis Mai, bydd Academi BBC Radio 1 yn Theatr y Grand, Abertawe. Drwy ddarparu wythnos o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, nod yr Academi yw rhoi cyngor cyffrous ar yrfaoedd ac ysbrydoli. Bydd yn cynnwys ystod o ddarllediadau byw, perfformiadau, enwogion yn ateb cwestiynau a gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a wynebau adnabyddus.
Gellir gweld yr holl wybodaeth a chadw lle ar gyfer Academi Radio 1 ar wefan y BBC yn bbc.co.uk/biggestweekend
Sylwer:
I’r rhai sy’n ymweld â Theatr y Grand yn aml, dylech nodi y bydd rhai o wasanaethau arferol yr adeilad ar gau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys Bwyty a Bar Footlights. Bydd y brif dderbynfa a’r swyddfa docynnau ar agor yn ôl yr arfer i’r rhai sydd eisiau prynu tocynnau i sioeau sydd i ddod, yn ogystal â rhif ffôn y swyddfa docynnau a’r siop ar-lein.