Enillwch docyn i’r Theatr Awyr Agored!
Mae’r haf bron â chyrraedd, mae’r basgedi picnic a’r Pimm’s wedi’u paratoi ac rydym bellach yn barod i ddechrau’r haf mewn steil – gydag ychydig o ddiwylliant, drama a chomedi, oll ar yr un pryd!
Mae ychydig yn llai nag wythnos i fynd tan berfformiad cyntaf y Theatr Awyr Agored ar gyfer 2017 yng Nghastell Ystumllwynarth, a gyflwynir gan Illyria.
Fel un o gwmnïau cynhyrchu Theatr Awyr Agored gorau’r DU, mae’r criw clodwiw hwn wedi bod yn cyflwyno rhai o’r campweithiau llenyddol enwocaf erioed ar y llwyfan am y 26 blynedd diwethaf.
Gan fod gwyliau’r ysgol wedi cyrraedd, ac mae cyfnod hir (6 wythnos!) o haf o’n blaenau, roedden ni yn Joio Bae Abertawe’n meddwl y byddai’n syniad da i chi ddod ynghyd a mwynhau’r Theatr Awyr Agored gyda ni yng Nghastell Ystumllwynarth.
Am gyfle i ENNILL tocyn teulu i The Comedy of Errors nos Fercher 26 Gorffennaf, atebwch y cwestiwn canlynol a llenwch y ffurflen isod:
[gravityform id=”17″ title=”true” description=”true”]
Y dyddiad cau yw dydd Gwener 21 Gorffennaf a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ddydd Llun 24 Gorffennaf.