Gallai bwydo llygod wedi’i dadrewi i nadroedd a gweini uwd brecwast i fwncïod fod yn rhan o’ch trefn ddyddiol cyn bo hir.
Mae Cyngor Abertawe’n chwilio am ddau intern i fagu anifeiliaid yn nhŷ gwydr trofannol Plantasia ym Mharc Tawe.
Yn ystod y lleoliadau gwirfoddol am gyfnod o chwe mis bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gydag anifeiliaid yr atyniad dros bum niwrnod yr wythnos mewn meysydd fel maeth, ymddygiad, cadw cofnodion, cynllunio’r casgliad, rhaglenni bridio, addysg a gwasanaethau i ymwelwyr.
Bydd y lleoliadau gwirfoddol hyn yn helpu i ddechrau gyrfa mewn sŵ neu amgylcheddau tebyg ag anifeiliaid, ac mae’r cyngor yn dweud y bydd y lleoliadau’r un mor foddhaol ag y maent yn heriol.
Bydd penodi’r recriwtiaid newydd yn rhyddhau dau o dechnegwyr anifeiliaid Plantasia i fynd ag anifeiliaid o gasgliad yr atyniad yn rheolaidd ar ymweliadau addysgol i ddigwyddiadau mewn ysgolion ac yn y gymuned yn amlach.
Mae anifeiliaid yn nghasgliad yr atyniad yn cynnwys peithon rhwydog o’r enw Cuddles, monitor dŵr Asiaidd o’r enw Haku, dau fwnci tamarind pen cotwm o’r enw Boo Boo a Jeffrey, pysgod trofannol ac amrywiaeth o adar egsotig, gan gynnwys macaw asgellwerdd o’r enw Rainbow.
Mae Michael Colwill, 33 oed, yn un o dechnegwyr anifeiliaid Plantasia.
Gyda gradd mewn lles ac ymddygiad anifeiliaid o Goleg Sir Gâr ym Mhibwrlwyd, mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun yr Olchfa yn disgrifio’r swydd fel un sy’n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn anifeiliaid.
Meddai Michael, “Cefais fy neidr gyntaf pan oeddwn yn ddeg oed – neidr ŷd o siop anifeiliaid anwes leol ym Mrynmill, a dwi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
“Mae’n swydd wych, felly byddwn yn argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn anifeiliaid i wneud cais am leoliadau interniaeth. Dechreuodd Catherine Royle, cyd-dechnegydd anifeiliaid yn Plantasia, yma fel intern, ond erbyn hyn mae hi wedi bod yn aelod o staff llawn amser am nifer o flynyddoedd.
“Bydd yr interniaid llwyddiannus yn gyfrifol am ofal dyddiol ein casgliad o anifeiliaid, a fyddai’n cynnwys tasgau megis bwydo, glanhau, trin a rhyngweithio â chwsmeriaid.
“Mae’n dipyn o gyfle i bobl a fyddai wrth eu boddau’n gweithio gyda rhai o’r anifeiliaid anhygoel sydd gennym yn Plantasia.”
Yn ddelfrydol, mae’r cyngor yn chwilio am bobl sy’n astudio cwrs sy’n ymwneud â gwyddoniaeth anifeiliaid ar lefel HND, gradd neu NVQ Lefel 4 ar hyn o bryd, neu sydd wedi cwblhau cwrs o’r fath.
Ceisir hefyd berson sydd â diddordeb gwirioneddol mewn magu anifeiliaid, yn ogystal â rhywun sy’n ddibynadwy, yn gydwybodol o ran eu hagwedd ac sydd â sgiliau cyfathrebu da.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y lleoliadau gwirfoddol anfon CV a llythyr eglurhaol at michael.colwill@swansea.gov.uk erbyn dydd Mercher 3 Mai.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English