Abertawe fydd y lle cyntaf yng Nghymru i gyfnewid y baton pan fydd yn cyrraedd y ddinas ddydd Iau 5 Medi.
Bydd rhan Abertawe o’r ras gyfnewid yn para am dair awr, gan ddechrau yn Knab Rock yn y Mwmbwls am oddeutu 7.30am cyn teithio ar hyd y promenâd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am oddeutu 10.30am.
Gydag enwogion y byd chwaraeon, gan gynnwys cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones, seren gynyddol y byd tenis Kimberly Mpukusa, y bocsiwr Enzo Maccarinelli a chyn-arwr yr Elyrch Alan Curtis, yn cymryd rhan, mae Cyngor Abertawe’n annog cynifer o bobl leol â phosib i gefnogi’r bobl sy’n cludo’r baton yn y ddinas.
Bydd Bad Achub RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau) y Mwmbwls yn cyflwyno Baton y Frenhines dros y môr i Knab Rock lle caiff ei dderbyn gan y Cyng. Philip Downing, Arglwydd Faer Abertawe, ac Anne Ellis, cyn-gapten hoci Prydain Fawr.
Meddai’r Cyng. Downing, “Mae gan Abertawe draddodiad balch o gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r math hwn. Fel yr unig ddinas yng Nghymru a chanddi glwb yn yr Uwch-gynghrair ac sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021, mae’n briodol mai Abertawe fydd man cychwyn Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yng Nghymru wrth iddi symud tuag at Awstralia’r flwyddyn nesaf ar gyfer dechrau Gemau’r Gymanwlad ar y Traeth Aur ym mis Ebrill 2018.
“Gyda chynifer o arwyr lleol yn cymryd rhan yn nhaith gyfnewid y baton yma yn Abertawe, dyma gyfle gwych i bobl leol sefyll ar hyd y llwybr, cefnogi’r bobl sy’n cludo’r baton a dathlu digwyddiad chwaraeon gwych i’n dinas.
“Dyma ffordd fendigedig i bobl Abertawe deimlo’n rhan o ddathliadau ar draws y Gymanwlad wrth i ni barhau i edrych ymlaen at un o’r digwyddiadau chwaraeon gorau yn y byd. Mae’n bleser gennym fod Abertawe’n cynnal cymal cyntaf y digwyddiad hwn yng Nghymru.”
Rhennir taith gyfnewid y baton yn 11 o gymalau, gyda rhai o’r bobl eraill a fydd yn cludo’r baton yn cynnwys cystadleuwyr Paralympaidd fel Aaron Moores, David Smith a Chloe Davies.
Bydd y cyn-gystadleuydd jwdo Olympaidd Andrew Burt, cyn-chwaraewr yr Elyrch Lee Trundle a chapten yr Elyrch, Leon Britton, yn cymryd rhan hefyd.
Bydd y bobl eraill a fydd yn cludo’r baton yn cynnwys yr athletwyr lleol addawol Josh Griffiths ac Osaze Aghedo, y gymnastwr Holly Jones, yn ogystal â Matthew Rees, sy’n aelod o Harriers Abertawe ac a aberthodd ei amser ei hun ym Marathon Llundain eleni er mwyn helpu rhedwr a oedd wedi’i anafu dros y llinell derfyn.
Bydd y lleoliadau ar gyfer cyfnewid y baton ar hyd llwybr Abertawe yn cynnwys Sgwâr y Mwmbwls, West Cross, Blackpill, Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360, a’r Ganolfan Ddinesig.