Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, mae rhywbeth arbennig ar y gweill ar gyfer 5 Tachwedd. Eleni, cynhelir yr Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol uwchben moroedd eang Bae Abertawe – am ddim!
Sut i gyrraedd
Cynhelir yr arddangosfa ym Mae Abertawe, rhwng y Senotaff (côd post SA2 0AY) a’r Ganolfan Ddinesig (SA1 3SN).
Mewn car
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Bydd Bae Abertawe ar y dde tua 500m ar ôl Maes Rygbi San Helen.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, trowch i’r dde ar ôl gyrru tua 2.5 milltir wrth y prif oleuadau, gan ddilyn yr arwyddion am ‘Gŵyr’ (mae tafarn The Marquis Arms ar yr ochr dde). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde ar yr ail gylchfan bach. Parhewch i ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, yna’r arwyddion ar gyfer meysydd .
Meysydd Parcio’r Digwyddiad
Bydd pob maes parcio ar gyfer y digwyddiad ar agor o 5pm. Sylwer na ellir parcio dros nos mewn unrhyw faes parcio ar gyfer y digwyddiad. Rhaid talu wrth gyrraedd pob maes parcio.
Sylwer bod nifer cyfyngedig o leoedd parcio hygyrch ym maes parcio’r a rhoddir y rhain ar sail y cyntaf i’r felin.
Maes Parcio’r Maes Chwaraeon
- Cost fesul cerbyd: £5
- Côd post – SA2 0AU
- Arwyneb y maes parcio – Graean a glaswellt
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth y gât yn unig
Cae Lacrosse
- Cost fesul cerbyd: £5
- Côd post – SA2 0AT
- Arwyneb y maes parcio – Glaswellt
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth y gât yn unig
Canolfan Ddinesig (Meysydd Parcio Dwyreiniol a Gorllewinol)
- Cost fesul cerbyd: £5
- Côd post – SA1 3SN
- Arwyneb y maes parcio – Tarmac
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth y gât yn unig
Rotwnda Neuadd y Ddinas
- Cost fesul cerbyd £5
- Côd post – SA1 4PE
- Arwyneb y maes parcio – Tarmac
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth i chi gyrraedd
Maes Parcio’r Baddonau
- Cost fesul cerbyd: £5
- Côd Post – SA1 3UP
- Arwyneb y maes parcio – Tarmac
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth i chi gyrraedd
Stryd Paxton
- Cost fesul cerbyd: £5
- Côd post – SA1 3SA
- Arwyneb y maes parcio – Tarmac / graean
- Ar agor o 5pm
- Talu wrth i chi gyrraedd
Gwiriwch YMA ar gyfer manylion meysydd parcio eraill yng nghanol y ddinas
Cau ffyrdd
Bydd un lôn wedi’i chau ar Heol y Mwmbwls rhwng y Ganolfan Ddinesig a Lôn Brynmill er diogelwch cerddwyr.
Bydd traffig ar Heol Ystymllwynarth/Heol y Mwmbwls yn cael ei atal am gyfnod byr ar ddiwedd y sioe er mwyn caniatáu i’r nifer mawr o wylwyr groesi’r ffordd yn ddiogel i gyrraedd eu cerbydau.
Gan ystyried y nifer mawr o gerbydau sy’n debygol o adael yr ardal ar yr un pryd, disgwylir i’r traffig fod yn drwm ar ddiwedd y digwyddiad.
Cludiant Cyhoeddus
Ewch i wefan Traveline Cymru neu ffoniwch 0871 200 2233 i gael help i drefnu teithiau bws neu drên.
Bydd bysys yn teithio’n ôl yr arfer – gwiriwch amserlenni ar wefan Traveline Cymru.https://www.traveline.cymru/
Efallai y bydd oedi oherwydd traffig trwm.
First Cymru https://www.firstgroup.com/south-west-wales
Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01792 572 255, 8am – 8pm bob dydd
Traveline: 0800 4640000 (AM DDIM) 7am – 8pm bob dydd
Tacsis
Bydd tacsis ar gael o orsaf drenau Abertawe, canol dinas Abertawe a nifer o leoliadau eraill yn yr ardal.
Bydd taith mewn tacsi o’r orsaf drenau’n costio oddeutu £8, ond sylwer y bydd traffig prysur neu deithiau araf yn cynyddu’r pris.
Rhannu Car
Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd.