Cynhelir Y Penwythnos Mwyaf gan y BBC Music ym Mharc Singleton, Abertawe. Mae Parc Singleton tua 1.5 milltir y tu allan i ganol dinas Abertawe. Cynlluniwch ymlaen llaw a threfnwch eich amserau cyrraedd a gadael cyn y diwrnod!
Gatiau ar agor 11.00am
Amser gorffen tua 10.00pm
**Mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu**
Sut i gyrraedd yma
Cyrraedd Yn Y Car
Dilynwch arwyddion y gyngerdd i Barc Singleton, Abertawe a dilynwch yr arwyddion parcio priodol ar gyfer y digwyddiad.
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 wrth gyffordd J42 A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion i Ysbyty Singleton ar yr A4067. Mae Parc Singleton ar y dde tua 500m wedi Maes Rygbi San Helen.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 wrth gyffordd J47 a dilynwch yr arwyddion i Abertawe ar yr A483. Dilynwch yr arwyddion i Ysbyty Singleton ac ar ôl tua 2.5 milltir, trowch i’r dde wrth y goleuadau mawr, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gŵyr (mae tafarn ar y dde o’r enw The Marquis Arms). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde wrth yr ail gylchfan bach. Dilynwch yr arwyddion i Ysbyty Singleton ac yna’r arwyddion ar gyfer meysydd parcio’r digwyddiad.
Parcio A Theithio
Bydd gwasanaeth parcio a theithio ar waith ar gyfer y digwyddiad hwn o safle parcio a theithio Ffordd Fabian (cyffordd J42 oddi ar yr M4 oddi ar yr A483). Bydd y gwasanaeth yn weithredol o 7am tan tua 11.30pm ar y ddau ddiwrnod.
Cost fesul cerbyd – £5 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA1 8LD
Pellter cerdded i’r arena – 500m o’r man gollwng/casglu
Arwyneb y maes parcio – Tarmac
Meysydd Parcio’r Digwyddiad
Yn agor o 7am. Cofiwch, rydych yn siŵr o gael lle parcio drwy gadw lle ymlaen llaw!
Maes Chwaraeon y Rec (Maes parcio melyn)
Cost fesul cerbyd – £10 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA2 0AU
Pellter cerdded i’r arena – 800m
Arwyneb y maes parcio – Cerrig mân a glaswellt
Sylwer oherwydd cau ffyrdd yn yr ardal, bydd hyd at awr o oedi wrth adael y maes parcio hwn wedi diwedd y digwyddiad
Prifysgol Abertawe (Maes parcio gwyrdd)
Cost fesul cerbyd – £10 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA2 8PP
Pellter cerdded i’r arena – 900m
Arwyneb y maes parcio – Tharmac
Sylwer oherwydd cau ffyrdd yn yr ardal, gall fod hyd at awr o oedi wrth adael y maes parcio hwn wedi diwedd y digwyddiad.
Ysbyty Singleton (Maes parcio coch)
Cost fesul cerbyd – £10 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA2 8QG
Pellter cerdded i’r arena – 1400m
Arwyneb y maes parcio – Tharmac
Mae’r maes parcio hwn yn bellter cerdded rhesymol o’r arena ond mae y tu allan i unrhyw ardaloedd lle bwriedir cau ffyrdd.
Meysydd Chwarae Brenin Siôr V (Maes parcio porffor)
Cost fesul cerbyd – £5 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA2 9AU
Pellter cerdded i’r arena – 2000m
Arwyneb y maes parcio – Cerrig mân
Mae’r maes parcio hwn yn bellter cerdded rhesymol o’r arena ond mae y tu allan i unrhyw ardaloedd lle bwriedir cau ffyrdd.
Canolfan Ddinesig Abertawe (Oren)
Cost fesul cerbyd – £5 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA1 3SN
Pellter cerdded i’r arena – 2200m
Arwyneb y maes parcio – Cerrig mân
Mae’r maes parcio hwn yn bellter cerdded rhesymol o’r arena ond mae y tu allan i unrhyw ardaloedd lle bwriedir cau ffyrdd.
Maes Parcio Hygyrch
Cost fesul cerbyd – £10 (ynghyd â ffi cadw lle)
Côd Post – SA2 9AP
Pellter cerdded i’r arena – 150m
Arwyneb y maes parcio – Glaswellt a tharmac
Mae’r maes parcio ar gyfer parcio hygyrch yn unig. Caiff eraill eu gwrthod. Mae llwybr cerdded ar oleddf bach rhwng y maes parcio ac arena y digwyddiad. Bydd stiwardiaid wrth law i gynorthwyo’r rhai sy’n mynd i’r gyngerdd.
Amodau a Thelerau Cyffredinol Parcio/Parcio a Theithio
Cyrraedd ar y bws
Mae’r bysus yn mynd o ganol dinas Abertawe a lleoliadau amrywiol eraill i Barc Singleton.
Ceir safleoedd bws yn agos i fynedfeydd Parc Singleton ar Heol Gŵyr, Lôn Sgeti a Heol Ystumllwynarth. Gwiriwch gyda’ch gweithredwr bws ar gyfer manylion yr amserlen fysus ar ôl y gyngerdd oherwydd gall cau ffyrdd effeithio ar safleoedd gollwng a chasglu’r bysus.
Dylai pobl sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amseru’r gyngerdd ac fe’u cynghorir i wirio gyda’r gweithredwr ynghylch manylion yr amserlen o ganlyniad i newidiadau posib i’r amserlen arferol ar ddiwrnodau’r digwyddiad.
First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com
Mae’r gwasanaethau bws canlynol yn weithredol yn ardal Parc Singleton:
2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 8X, 10, 43, 37, 116, 118, 119, 20A, 20, 22, 21A, 53
Ar ddiwedd y noson, bydd bysys gwennol yn gweithredu rhwng y parc a chanol dinas Abertawe. Edrychwch ar y wefan hon ar gyfer mwy o fanylion maes o law.
Cyrraedd ar y tren
Yr orsaf reilffordd agosaf at Barc Singleton yw Stryd Fawr Abertawe sydd oddeutu 2 filltir i ffwrdd. Mae arhosfan tacsis y tu allan i’r orsaf.
Dylai pobl sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amseru’r gyngerdd ac fe’u cynghorir i wirio gyda’r gweithredwr https://www.traveline.cymru/
Ffôn: 0800 464 00 00
Wrth fynd adref ar y trên, sicrhewch fod gennych o leiaf awr i gyrraedd eich trên o safle’r digwyddiad.
Cau Ffyrdd
Bydd nifer o ffyrdd ar gau a gwyriadau ar waith dros y penwythnos er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad y rhai sy’n mynychu’r digwyddiad. Ceir manylion llawn ar dudalen olaf y ddogfen hon.
Y pwyntiau allweddol yw:
- Bydd Heol De La Beche a Heol Gŵyr (rhwng Heol De La Beche a Heol Eversley) yn ardal dim parcio o 8yh ar ddydd Gwener 25 Mai hyd at 6yb ar ddydd Llun 28 Mai. Yn anffodus, golyga hyn na fydd modd i breswylwyr barcio y tu allan i’w cartrefi yn ystod y cyfnod hwn.
- Er mwyn sicrhau hyn, bydd cyfyngiadau parcio a threfniadau tynnu cerbydau ar waith ar y ffyrdd a nodir isod. Os bydd y trefniadau i gau’r ffyrdd hyn yn effeithio arnoch, gofynnwn yn garedig i chi symud eich cerbyd i leoliad arall cyn 8pm ar ddydd Gwener 25 Mai.
- Bydd Heol De La Beche yn heol unffordd (o’r dwyrain i’r gorllewin) o 8yh ar ddydd Gwener, 25 Mai hyd at 6yb ar ddydd Llun 28 Mai.
- Bydd Stryd Llewelyn a Stryd Lewis unfordd o 8yh ar ddydd Gwener, 25 Mai hyd at 6yb ar ddydd Llun 28 Mai.
- Bydd Lôn Brynmill rhwng Heol Gŵyr a Heol y Mwmbwls ar gau i draffig o 10yh ar ddydd Gwener, 25 Mai hyd at 6yb ar ddydd Llun 28 Mai.
- Bydd Heol Gŵyr (rhwng Heol De La Beche a Heol Eversley) a Heol y Mwmbwls (rhwng Lôn Sgeti a Lôn y Gors) ar gau i draffig rhwng 9yh a 11.45yh ar ddau ddiwrnod y cyngerdd. Gwneir hyn er mwyn sicrhau diogelwch mynychwyr y cyngerdd wrth iddynt adael y cyngerdd. Disgwyliwn mai dyma fydd yr adegau prysuraf yn yr ardal ger Parc Singleton.
- Bydd arwyddion gwyriadau yn cael eu gosod i gynorthwyo llif y traffig yn yr ardal ond disgwylir iddi fod yn brysur iawn, yn enwedig tua diwedd y cyngherddau.
- Caiff y gwasanaethau brys fynediad i bob ardal ar bob amser.
- Bydd Swyddogion Gorfodi Parcio’r Cyngor yn gweithio yn yr ardal dros benwythnos y digwyddiad i fonitro parcio anghyfrifol neu anghyfreithlon er mwyn cynorthwyo i leihau lefelau tarfu ar breswylwyr.
Tacsis
Mae tacsis ar gael o orsaf drenau Abertawe, canol dinas Abertawe ac o sawl lleoliad arall yn yr ardal.
Bydd taith o’r orsaf drenau’n Abertawe yn costio tua £8. Bydd tagfeydd/teithiau araf yn cynyddu’r pris.
Ni chaniateir i dacsis gael mynediad i Barc Singleton. Os ydych chi’n cyrraedd mewn tacsi, dylech ofyn i gael eich gollwng yn
- Heol De-La-Beche
- Heol Bryn
Bydd marsialiaid tacsis yn weithredol yn y ddwy ardal hon.
Gall ciwiau am dacsi wrth adael y safle fod yn hir yn aml iawn. Ystyriwch archebu tacsi hurio preifat ymlaen llaw i’ch casglu o’r ardal gasglu ddynodedig wrth ben pellaf Heol De La Beche. Caniatewch ddigon o amser i gerdded o arena’r gyngerdd i’r briffordd pan fyddwch yn trefnu tacsi.
Man Gollwng /Casglu
Lleolir y man gollwng a chasglu ar Heol De La Beche. Bydd yr ardal hon wedi’i goleuo a’i goruchwylio drwy gydol y digwyddiad.
Peidiwch â cheisio cael eich gollwng na’ch casglu ar unrhyw ran o Heol Ystumllwynarth.
Wrth drefnu i gael eich casglu, byddwch yn ymwybodol y bydd ffyrdd ar gau yn yr ardal. Bydd manylion cau ffyrdd ar gael yn fuan.
Beicio
Os hoffech ddod i’r digwyddiad ar feic, gallwch gynllunio eich llwybr yn www.sustrans.co.uk
Rhannu Car
Os ydych chi’n teithio mewn car, ceisiwch rannu car lle bo hynny’n bosib. Bydd rhannu car yn arbed arian i chi gan y byddwch yn rhannu costau ac yn lleihau’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan helpu’r amgylchedd.
Lleodd I Aros
Am restr o leoedd gwych i aros ynddynt, ewch i’n chwaer-wefan www.croesobaeabertawe.com. Archebwch le i aros gyda’r rhestr ddefnyddiol o westai, llety gwely a brecwast a mwy. Hefyd, cofiwch gadw llygad ar y cynigion munud olaf ar gyfer y bargeinion gorau.