Mae’r ŵyl, a gynhelir bob mis Awst, yn dathlu Gerddi Botaneg Singleton pan fyddant ar eu mwyaf ysblennydd.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am yr ŵyl, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw yn y man prydferth, sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd, bob dydd Sul trwy gydol y mis.
Bydd perfformiadau cerddoriaeth fyw yn cynnwys Band Iwcalilis Prifysgol y Drydedd Oes o 3pm tan 5pm ddydd Sul 7 Awst, Trim Bling Star o 3pm tan 5pm ddydd Sul 14 Awst, a band dynwared lleol ddydd Sul 21 Awst o 3pm tan 5pm. Bydd Cerddorfa Acordiynau Abertawe yn perfformio ddydd Sul 28 Awst o 3pm tan 5pm.
Cynhelir gweithgareddau hwyl arall o amgylch y gerddi bob dydd Mercher a dydd Sadwrn ym mis Awst o 2pm, yn ogystal â gemau a gweithgareddau i blant drwy gydol y mis.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae Gerddi Botaneg Parc Singleton yn dwyn clod i’r staff sy’n gweithio yna a phawb arall sy’n cyfrannu at gynnal a chadw’r atyniad gwirioneddol brydferth.
“Mae’n gyfleuster ardderchog i ymweld ag ef unrhyw amser o’r flwyddyn, ond mae’n arbennig o drawiadol ym mis Awst oherwydd dyma pryd bydd amrywiaeth eang o flodau yn blodeuo.
“Mae hyn yn golygu mai mis Awst yw’r amser perffaith i gynnal gŵyl y Gerddi Botaneg yn eu Blodau sy’n addas i deuluoedd sy’n cyfuno gemau a gweithgareddau i blant gyda cherddoriaeth fyw a’r cyfle i ddarganfod y gerddi drosoch eich hun gyda theithiau tywys.”
Mae rhai o nodweddion mwyaf eiconig yr atyniad yn cynnwys gerddi addurnol, gardd greigiau a phont Japaneaidd – cefndiroedd poblogaidd ar gyfer lluniau priodas.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English