O, nac ydy ddim…yn rhy hir i brynu’ch tocynnau pantomeim ac ymuno â DICK WHITTINGTON arbennig yn Theatr Penyrheol Abertawe’r Nadolig hwn!
Pa ffordd well o ddathlu’r Nadolig na gydag ymweliad teulu i weld y pantomeim gwych hwn! Mae Jermin Productions, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda’u pantomeimiau yn y gorffennol, gan gynnwys Cinderella a Sleeping Beauty, yn falch o gyhoeddi bod tocynnau bellach ar gael ar gyfer antur bantomeim gyffrous eleni, sy’n adrodd hanes dyn ifanc ac uchelgeisiol o’r enw Dick Whittington, a’i stori anhygoel o geisio ffortiwn er mwyn dod yn arglwydd faer newydd Llundain.
Mae tocynnau’n diflannu’n gyflym o Swyddfa Docynnau Theatr Penyrheol ar gyfer yr antur newydd, gyffrous hon am Dick Whittington a’i gath a fydd yn cyrraedd y llwyfan o ddydd Llun 19 Rhagfyr gan bara tan ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr yn Theatr Penyrheol Abertawe.
Ymunwch â Dick, Alice Fitzwarren, Tom Tom y gath sy’n gwybod y ffordd a ffrindiau pantomeim eraill yn y cyhoeddiad pantomeim doniol hwn. Bydd yn ddewis perffaith ar gyfer y teulu, ac mae’n addas i bob oedran.
“Pantomeim GWYCH gyda’i fys ar y botwm”.
Mae yna berfformiadau at ddant pawb gan gynnwys perfformiadau arwyddedig a hamddenol, perfformiadau yn gynnar y nos a pherfformiadau prynhawn, perfformiadau dydd Sul a pherfformiadau arbennig yng nghanol yr wythnos ar gyfer ysgolion.
Cadwch le nawr i osgoi cael eich siomi!
Gwybodaeth am Docynnau
Am fwy o wybodaeth am Dick Whittington 2016/2017 ewch i:
Ymweld â gwefan Jermin Productions
Facebook
Twitter
Sponsors
With Special Thanks to ADMIRAL, and Peter Lynn and Partners
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English