Cadarnhad y bydd y Red Arrows yn hedfan ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2017!
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd tîm erobatig rhagorol y Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r haf hwn.
Bydd y Red Arrows yn hedfan ar ddau ddiwrnod y digwyddiad am ddim hwn gan Gyngor Abertawe a gynhelir ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,700 o arddangosfeydd mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd ers y 1960au.
Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi mai Prifysgol Abertawe (a bleidleisiwyd yn Brifysgol Cymru’r flwyddyn gan y Times Higher) fydd prif noddwr Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English