1.Marchnadoedd Bwyd – Brownis, cwrw, caws Cymreig a choffi; cig oen a gwirodlynnau o Gymru, ffa, jin Cymreig a nŵdls parod. Ni fyddem yn argymell blasu pob un o’r rhain ar yr un tro, ond byddem yn eich argymell i edrych o gwmpas y marchnadoedd bwyd yn ystod digwyddiad Croeso i weld yr uchod a mwy a dod o hyd i’ch cyfuniad coginiol perffaith!
2.‘Nightworks’ – Bydd rhai o leoliadau mwyaf cyffrous a chyfoes Abertawe’n cynnal amrywiaeth o gerddoriaeth, barddoniaeth a chomedi. Bydd popeth gan artistiaid o Gymru, o hip hop i roc – cymerwch gip drosoch eich hun!
3. Arddangosiadau Coginio o’r Radd Flaenaf – Bydd y rhain yn cynnwys Imran Nathoo, a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef yn 2017, Jon Jenkins, a ymddangosodd ar Great British Bake Off; Katie Davies, a ymddangosodd ar raglen Mary Berry Britain’s Best Home Cook 2018, a rhai o’r bobl leol fwyaf dawnus sy’n gweithio mewn bwytai megis Hywel Griffith o The Beach House ym Mae Oxwich.
4. Daffodil Dash – Digwyddiad llawn hwyl i’r teulu! Gwisgwch eich gwisgoedd Dydd Gŵyl Dewi gorau ar gyfer y ras hwyl 1k ar y dydd Sadwrn.
5. The Tom Jones Experience – Cewch eich swyno yn ystod y profiad o wylio The Tom Jones Experience. Credwch ni, bydd yn werth ei weld!
6. Adloniant Stryd – O lwyfannau adloniant stryd i’r ddraig goch fecanyddol, cennin Pedr ar stiltiau a chwaraewyr rygbi. Bydd y strydoedd yn dod yn fyw gyda diwylliant ac adloniant Cymreig! Os nad yw hynny’n ddigon, galwch heibio pabell CWTSH am chwarae meddal, adrodd straeon a hwyl amser rhigwm