Mae pethau i’w gwneud yn Plantasia sy’n amrywio o brofiad dysgu byw mewn cwt coedwig law – lle gallwch ddarganfod cyfrinachau am sut mae’r bobl frodorol yn byw – i weld y planhigion a’r ffrwythau gwahanol ar y Llwybr Tŷ Gwydr.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae Plantasia yn gyrchfan poblogaidd i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn a hyd yn oed yn fwy felly yn ystod gwyliau’r haf.
“Ble arall y gallech chi brofi’r hinsawdd y mae’r mabolgampwyr ym Mrasil wedi bod yn hyfforddi ynddi yng nghanol ein dinas?
“Mae cynifer o bethau i’w gwneud a’u gweld. Gall y teulu cyfan fwynhau profiad unigryw Plantasia sy’n addysgol ac yn llawn hwyl.”
Yr haf hwn, bydd teuluoedd hefyd yn cael y cyfle i gael golwg agos ar rai creaduriaid egsotig a chyffrous mewn sioeau Parth Anifeiliaid rhyngweithiol. Cynhelir y sioeau hyn o 16 Awst tan 18 Awst, gyda phedair sioe’r dydd o 10.30am.
Pris y tocynnau yw £4.50 i blant a £5.50 i oedolion a gellir eu prynu ar www.ticketsource.co.uk/plantasia
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English