Mae Shellyann, enillydd sioe doniau cerddorol y BBC All Together Now eleni, yn dechrau paratoi i berfformio o flaen ei dorf gartref yn Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe.
Bydd Shellyann Evans, sy’n hanu o’r Rhondda ond sy’n byw yn Abertawe erbyn hyn, yn diddanu’r dorf yn y gala cerddorol poblogaidd pan fydd yn dychwelyd i Barc Singleton nos Sadwrn 14 Medi.
Cyrhaeddodd Shellyann y rownd derfynol ar The Voice yn 2015 ac ers hynny mae hi wedi canu mewn lleoliadau gwych ar draws y byd, gyda phobl megis Sam Bailey, The Overtones a Jay James. Ond, mae hi’n edrych ymlaen at berfformio i dorf fawr yn y ddinas sydd bellach yn gartref iddi. Anogir i gefnogwyr lleol, sydd am fwynhau set wych Shellyann, gyrraedd yn gynnar. Bydd hi’n perfformio rhwng 6pm a 7pm.
Cyflawniad diweddaraf y gantores a’r gyfansoddwraig oedd cefnogi Bonnie Tyler ar ei halbwm newydd, Between the Earth and the Stars. Disgrifiodd Shellyann y profiad fel “teimlad anhygoel”. Mae’n gweithio ar ei halbwm cyntaf ar hyn o bryd, i’w ryddhau yn y misoedd nesaf.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer Proms yn y Parc y BBC, yn Abertawe, ar-lein nawr.
Ydych chi’n edrych ymlaen at glywed llais gwych Shellyann? Cymerwch gip ar ei gwaith ar ein rhestr chwarae ar Spotify.