Bydd Llyfrgell Ganolog Abertawe’n croesawu awduron arobryn ym mis Awst fel rhan o Fis Awduron.
Tracy Rees fydd yr awdures gyntaf i ymweld â Llyfrgell Ganolog Abertawe nos Fercher 1 Awst rhwng 6pm a 7pm. Enillodd Tracy gystadleuaeth “Search for a Bestseller” Richard a Judy yn 2015 gyda’i nofel gyntaf, Amy Snow.
Bydd Tracy’n sgwrsio am ei nofel newydd, Darling Blue, sef stori am lythyron caru ac ymgais un fenyw i ganfod ei thynged ei hun.
Bydd Emma Kavanagh yn ymweld â Llyfrgell Ganolog Abertawe nos Fercher 15 Awst rhwng 6pm a 7pm. Mae Emma yn un o awduron blaenllaw’r DU, y mae ei llyfrau cyffrous seicolegol yn llawn tensiwn. Fe’i ganed a’i magu yn ne Cymru, mae’n gyn-heddwas ac yn seicolegydd milwrol.
Bydd Kate Hamer yn ymweld â Llyfrgell Ganolog Abertawe nos Fercher 22 Awst rhwng 6pm a 7pm. Yn 2011, enillodd Kate wobr stori fer Rhys Davies ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn casgliadau amrywiol. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Girl in the Red Coat, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Costa First Novel, Llyfr Ffuglen Gyntaf y Flwyddyn gan y British Book Industry, John Creasey (New Blood) Dagger, a Llyfr y Flwyddyn Cymru.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn bod tair o’r awduron gorau presennol yn ymweld â’r Llyfrgell Ganolog.
“Mae pobl bob amser yn chwilio am lyfrau da i’w darllen dros wyliau’r haf a bydd yr awduron sy’n ymuno â ni’n siŵr o ennyn diddordeb.
I gadw lle ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau hyn sydd am ddim, ffoniwch Lyfrgell Ganolog Abertawe ar 01792 636464 neu e-bostiwch libraryline@swansea.gov.uk.