Bydd y ffilm enwog o 1978 sy’n cynnwys John Travolta ac Olivia Newton-John yn cael ei dangos ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell fel rhan o ddigwyddiad Penwythnos Mawr Abertawe, gan roi cyfle i bobl ganu ac ymuno yn yr hwyl.
Fe’i trefnir gan Gyngor Abertawe, a chynhelir digwyddiad y Penwythnos Mawr ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 29 a 30 Medi, a bydd yn dathlu economi gyda’r hwyr a nos fywiog ac amrywiol canol y ddinas.
Gan ddechrau am 4pm bob dydd, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cerddoriaeth roc a phop byw gyda dychweliad Gŵyl Ymylol Abertawe.
Trefnir sesiynau barddoniaeth, comedi a sgyrsiau ar gyfer y digwyddiad, yn ogystal â masnachwyr bwyd stryd ac adloniant gan gynnwys dawnsio stryd, cerdded ar ystudfachau, jyglo tân, perfformiadau gitâr clasurol a bandiau drwm.
Bydd Creative Bubble wrth law gyda llwyfan yr haf, gyda gostyngiadau ar gyfer deiliaid cardiau teyrngarwch Calon Fawr Abertawe ar gael gan amrywiaeth o fusnesau.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Nod Penwythnos Mawr Abertawe, a gefnogir gan Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe a sefydliadau eraill yw cefnogi economi gyda’r hwyr a nos wych canol dinas Abertawe.
“Yn gynharach yr haf hwn, llwyddodd canol y ddinas i gadw statws y Faner Borffor, sy’n nodi ei fod yn lle i ymwelwyr fwynhau noson allan ddifyr, amrywiol, diogel a phleserus.
“Bydd Penwythnos Mawr Abertawe’n dathlu’r hyn sy’n wych am ganol y ddinas, gan helpu i arddangos doniau lleol a rhoi hwb i fasnach ar gyfer ein busnesau.
“Mae hyn yn rhan o raglen barhaus o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas a fydd yn diddanu ymwelwyr ac yn annog mwy o ymwelwyr a gwariant i fasnachwyr.”
Dyfarnwyd statws y Faner Borffor i ganol dinas Abertawe am y tro cyntaf yn 2015. Mae’r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys BID Abertawe, Heddlu De Cymru a’r ddwy brifysgol i gyflwyno cynlluniau megis gweinidogion stryd, marsialiaid tacsis a man cymorth i wella profiad noson allan yng nghanol y ddinas gyda’r hwyr a’r nos.
Ewch i www.joiobaeabertawe.com/penwythnosmawr am fwy o wybodaeth. Gallwch lawrlwytho amserlen lawn o weithgareddau ar y wefan.