Mae’n well i mi gyflwyno fy hun. Natalie dwi a dyma fy mlog am loncian. Dwi’n gobeithio rhedeg hanner marathon Abertawe (na, mae hynny’n anghywir, dwi AM ei redeg!). Dwi’n gweithio yn Abertawe gyda gwasanaethau megis Abertawe Actif ac mae hynny wedi f’ysbrydoli i roi cynnig ar y cynllun hyfforddi 12 wythnos; gallwch ei lawrlwytho yma. Dwi’n gobeithio newid o fod yn ddiogyn yn y tŷ i fod yn rhedwr o fri mewn 14 wythnos.
Mae 3 mis i fynd tan y ras ar 14 Mehefin (gallwch gofrestru yma) Na, dyw hynny ddim yn fanwl gywir…mae 3 mis, 10 niwrnod, 16 awr, 33 munud a 57 eiliad i fynd tan ddiwrnod y ras! Dwi’n gobeithio hyfforddi digon er mwyn i mi allu mwynhau rhedeg y ras ar y diwrnod, cadw’n heini yn y broses ac, os dwi’n lwcus, ei rhedeg mewn llai na dwy awr. Dwi wedi dewis hwdi llwyd Hanner Marathon Abertawe JPS yn barod ar gyfer y sesiynau hyfforddi ar hyd Bae Abertawe. Ychydig o wybodaeth amdanaf i….
- Dwi newydd redeg fy ras hyfforddi gyntaf a dwi ddim yn heini o gwbl ar hyn o bryd. Rhedais ar hyd Bae Abertawe gyferbyn â lle rwy’n gweithio. Roedd e’n anodd. Byddai ar ben arnaf heb yr oriawr hyfforddi (Nike GPS); mae’n dweud wrthyf fy mod yn gwneud yn dda ac yn fy annog i ddal i fynd. O ganlyniad, roedd fy ras hyfforddi gyntaf yn eithaf llwyddiannus – 2 filltir mewn 30 munud. Rwy’n hapus gyda hynny a llosgais 200 o galorïau ar yr un pryd. Yn anffodus, celwydd fyddai dweud bod y tywod wedi fy arafu.
- Anelu at ddwy awr am y trydydd tro. Dwi’n gyfarwydd â’r hanner marathon bellach, a hwn fydd fy nhrydydd un. Fodd bynnag, roedd y ddau gyntaf yng Nghaerdydd gyda’r un diwethaf yn 2013 a llwyddais i’w redeg mewn 2:04. Roeddwn wedi gobeithio’i redeg mewn llai na dwy awr, felly roeddwn braidd yn siomedig, ond dim ots! Dwi am geisio goresgyn y rhwystr ofnadwy hwn unwaith ac am byth! Rwy’n credu ei fod yn debyg i bobi – mae’n rhaid i chi ddilyn y rysáit yn gywir (neu bydd eich teisen yn cwympo yn y popty, fel y gwnes i yn fy ras ddiwethaf pan gwympais i 13 munud y filltir ar ôl milltir 11). Yn y gorffennol, dwi wedi dechrau fy nghynllun hyfforddi’n rhy hwyr ac o ganlyniad doeddwn i byth yn barod erbyn diwrnod y ras.
- Ffitrwydd Cyffredinol: Rwy’n eithaf prysur ac yn gweithio wrth ddesg ac felly dwi ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff drwy’r dydd. Dwi’n gyrru am 2 awr y dydd yn cymudo ar yr M4 ac erbyn i mi gyrraedd adref rwy’n ei chael hi’n anodd coginio hyd yn oed, heb son am wneud unrhyw ymarfer corff! Wedyn mi fyddai’n gwisgo fy mhyjamas ac yn gwylio’r teledu. Yn syml, dwi braidd yn ddiog. Allai wneud hyn?
Dyma fi.
Dyma f’oriawr ar gyfer rhedeg 🙂
Fy Asics ar y ddesg; dwi ddim yn gwneud unrhyw fath o ymarfer corff yma!
Fy ras hyfforddi gyntaf ar hyd Bae Abertawe heibio Caffi 360….
Yr hwdi llwyd hyfryd dwi am ei brynu’n fuan iawn…
Cynllun hyfforddi’r hanner marathon; byddaf yn ei ddechrau 12 wythnos cyn y ras (ymhen pythefnos).
Dwi am rannu fy mhoen a’m cyflawniadau ar y blog hwn, y pethau sy’n gweithio’n dda i mi a’r rhai sydd ddim cystal. Pethau megis hyfforddi ysbeidiol, traws-hyfforddi, beth i’w fwyta, llwybrau i’w rhedeg yn Abertawe, sesiynau rhedeg yn y parc ac unrhyw gwynion cyffredinol sydd gen i!
Wela’ i chi’n fuan, bawb!
BIO: Rwy’n 42 oed ac yn gweithio fel Swyddog Marchnata Digidol yn Nhîm Marchnata Digidol y Gwasanaethau Twristiaeth a Marchnata yng Nghyngor Abertawe. Dwi’n hoffi rhedeg. Rwy’n tueddu i loncian yn fwy na rhedeg, ond er hynny, dwi’n hoffi rhoi her i fi’n hun ac rwy’n hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Abertawe eleni. Rwy’n dwlu ar bopeth digidol ac yn hoffi gwylio ffilmiau gyda phowlen fawr o Doritos caws ac ysgytlaeth hufen iâ.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English