Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2017.
Mae nifer o gategorïau’n rhan o’r gwobrau, gan gynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn, Chwaraewr Anabl y Flwyddyn a Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 15 mlynedd.
Mae categorïau eraill yn cynnwys Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn, Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn, Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn a Thîm Ysgol Uwchradd y Flwyddyn.
Bydd y digwyddiad yn dathlu Chwaraewr y Flwyddyn, yn ogystal â chategorïau ar gyfer Chwaraewr Iau a Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn.
Bydd eleni’n cynnwys dau gategori newydd. Bydd Cyfraniad at Chwaraeon yn cydnabod un gwirfoddolwr sydd wedi gwasanaethu ers tro. Bydd y wobr hon yn cydnabod ei gyfraniadau parhaus at chwaraeon yn ei gymuned a chaiff ei dyfarnu yn ôl disgresiwn y panel beirniadu.
Hefyd, cyflwynir y wobr am Berson Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn i berson ifanc sydd yn rhoi o’i amser i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Derbynnir enwebiadau am y categori hwn.
Mae gan bobl tan ddydd Gwener 31 Rhagfyr i fynd i: www.abertawe.gov.uk/GwobrauChwaraeon a chyflwyno eu henwebiadau er mwyn cydnabod campau arbennig a gyflawnwyd gan ein chwaraewyr lleol a phroffil uchel yn 2017.
Rhaid i’r holl enwebeion ar gyfer yr holl gategorïau fodloni’r gofynion canlynol:
- Preswylio yn Ninas a Sir Abertawe
- Cynrychioli ysgol, clwb neu dîm yn Ninas a Sir Abertawe
- Wedi’i geni yn Ninas a Sir Abertawe
Roedd yr enillwyr yn 2016 yn cynnwys rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a enillodd wobr Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn, a’r nofiwr Paralympaidd Aaron Moores MBE, a enillodd fedal aur yng Ngemau Paralympaidd 2016 yn Rio cyn cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn. Ymhlith yr enillwyr eraill oedd David Smith MBE, buddugwr medal aur yn y Gemau Paralympaidd; y nofiwr Paralympaidd Chloe Davies; y gwirfoddolwr Karen Gibbins (beicio); a’r hyfforddwr cymunedol Zoe Hill (pêl-rwyd).
Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe ar nos Iau 14 Mawrth 2018 yn Neuadd Brangwyn.