Date/Time:
Date(s) - 06/12/2017
7:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Ar ôl gorffen taith yn yr Unol Daleithiau â chyngherddau yn Neuadd Carnegie, bydd y pianydd Adam Gyorgy’n dod â’r darnau y mae ef wedi’u perfformio ym mhedwar ban byd eleni i Neuadd Brangwyn yn Abertawe am y tro cyntaf.
Derbyniwyd Adam gan Academi Cerdd Franz Liszt yn 12 oed ac ystyrir ei fod yn cenhadu dros Liszt a diwylliant Hwngari. Ar ôl perfformio gwaith Liszt neithiwr, yn y gyngerdd hon bydd yn perfformio gwaith Frederic Chopin yn yr un rhaglen y gwerthwyd bob tocyn ar ei chyfer yn Neuadd Carnegie.
Bydd Adam yn gwahodd y gymuned gyfan i fwynhau dwy noson o berfformiadau piano clasurol. Yn ogystal â’i rôl fel llysgennad, ei genhadaeth yw ennyn diddordeb cynulleidfa ifanc mewn cerddoriaeth glasurol.
ADAM GYORGY: Improvisations on Hungarian Folk Songs and Themes
FREDERIC CHOPIN: Nocturne in C Minor, Op. 48, No. 1
FREDERIC CHOPIN: Mazurka in C-sharp Minor, Op. 6, No. 2
FREDERIC CHOPIN: Mazurka in A Minor, Op. 17, No. 4
FRANZ LISZT: Rigoletto Paraphrase
FRANZ LISZT: La Campanella
FRANZ LISZT: Deux Légendes, No. 2
FREDERIC CHOPIN: Scherzo in B-flat Minor, No. 2
Tocynnau:
Pris llawn: £20
Consesiynau: £12 – Myfyrwyr dros 18 oed a’r henoed
Am ddim: Pobl ifanc dan 18 oed sydd yng nghwmni rhiant neu warcheidwad
Categories No Categories