Date/Time:
Date(s) - 05/12/2017
7:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Ar ôl gorffen taith yn yr Unol Daleithiau â chyngherddau yn Neuadd Carnegie, bydd y pianydd Adam Gyorgy’n dod â’r darnau y mae ef wedi’u perfformio ym mhedwar ban byd eleni i Neuadd Brangwyn yn Abertawe am y tro cyntaf.
Derbyniwyd Adam gan Academi Cerdd Franz Liszt yn 12 oed ac ystyrir ei fod yn cenhadu dros Liszt a diwylliant Hwngari. Yn y gyngerdd hon, bydd yn perfformio ei ddarnau mwyaf adnabyddus o waith Liszt yn yr un rhaglen y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer yn Neuadd Carnegie.
Bydd Adam yn gwahodd y gymuned gyfan i fwynhau dwy noson o berfformiadau piano clasurol. Yn ogystal â’i rôl fel llysgennad, ei genhadaeth yw ennyn diddordeb cynulleidfa ifanc mewn cerddoriaeth glasurol.
ADAM GYORGY: A Day in New York and Improvisations
FRANZ LISZT: Sonata in B Minor
FRANZ LISZT: Hungarian Rhapsody No. 2
FELIX MENDELSSOHN – FRANZ LISZT – ADAM GYORGY: Wedding March Transcription
Tocynnau:
- Pris llawn: £20
- Consesiynau: £12 – Myfyrwyr dros 18 oed a’r henoed
- Am ddim: Pobl ifanc dan 18 oed sydd yng nghwmni rhiant neu warcheidwad
Categories No Categories