Date/Time:
Date(s) - 13/07/2019 - 03/11/2019
10:00 am - 4:50 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Pris: Am Ddim
Addasrwydd: Pawb
Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal arddangosfa i goffáu un o artistiaid enwocaf Cymru – er ei fod yn enw go ddiarth i’r rhan fwyaf ohonom!
Bachgen o Bort Talbot oedd Andrew Vicari, a aeth yn ei flaen i fod yn artist swyddogol Rhyfel y Gwlff ym 1991, ac yn artist llys i deulu brenhinol Saudi Arabia, gan ennill y teitl “Brenin o Baentiwr Brenhinoedd”.
Nawr bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn arddangos ei waith, gydag arddangosfa sy’n cynnwys darlun a baentiwyd ar gyfer – ac a achubwyd o – waith cemegol BP ym Mae Baglan (darllenwch ddarganfod sut y daeth i gasgliadau’r Amgueddfa) a chasgliad o eiddo personol yr artist, yn cynnwys het a roddwyd iddo gan Norman Schwarzkopf, arweinydd lluoedd y cynghreiriaid yn Rhyfel y Gwlff a ffrind personol.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English