Date/Time:
Date(s) - 15/06/2019 - 01/09/2019
10:00 am - 5:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
15.06.19 – 01.09.19
Maer arddangosfa hon yn canolbwyntio ar waith Frances Richards, gwraig y
paentiwr Ceri Richards, y cyfarfu ag ef yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Mae gan waith Frances Richards gymeriad gweledol a gweledigaeth syn ei osod ar
wahân i gelf ei chyfnod gydai elfennau haniaethol a ffigurol. Mae natur soffistigedig
ei chelf deimladwy ac anacademaidd, ai chysylltiadau modern amlwg yn galw i gof
rai themâu hynod bersonol rheolaidd.
Bydd yr arddangosfan canolbwyntio ar y gludweithiau brodwaith, y darluniau ar
monoteipiau a grëwyd yn ystod blynyddoedd y rhyfel ac sydd heb gael eu gweld tan
nawr, gan adlewyrchu safbwynt artist benywaidd hynod dalentog ac awyrgylch tywyll
y cyfnod tyngedfennol hwnnw.
Maer arddangosfa hefyd yn cyflwyno rhai o baentiadau prydferth a chain ei
blynyddoedd hŷn, syn drosiadol neun dangos blodau.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English