Date/Time:
Date(s) - 15/06/2019 - 01/09/2019
10:00 am - 5:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
15.06.19 – 01.09.19
Marcel Dzama | Marcel van Eeden | Inci Eviner | Yun-Fei Ji | William Kentridge
Nalini Malani | Otobong Nkanga | Raymond Pettibon | Amy Sillman
Rinus Van de Velde
Mae Hand Drawn Action Packed yn cynnwys deg artist y mae darlunion sail iw
gwaith, gan ddangos posibiliadau diddiwedd y cyfrwng hwn at ddibenion creu naratif.
Dawr artistiaid o wledydd ar draws y byd (Gwlad Belg, Canada, Tsieina, India,
Nigeria, yr Iseldiroedd, De Affrica, Twrci ac UDA), ond mae gwaith pob un ohonynt
yn dangos ffurfiau naratif ar gyfer ffantasi, beirniadaeth gymdeithasol, alegori
wleidyddol a hunangofiant i gynnwys a chadw sylwr gynulleidfa.
Maent yn gwneud defnydd dychmygus or offer sydd ar gael iddynt, boed yn iPhone,
yn sgrîn cyfrifiadur a thaflunydd, camera a darn o siarcol neu feiro, inc a dyfrlliw.
Maer berthynas rhwng delwedd a gair yn narluniau Raymond Pettibon, Marcel van
Eeden a Rinus Van de Velde yn ymddangos drwy gapsiynau neu swigod siarad, gan
ddefnyddior un offeryn ar gyfer y llun ar geiriau, er mwyn angori neu ddrysu eu
hystyr.
Mae animeiddiadau Amy Sillman yn defnyddio iaith i greu delweddau, a ffonau clyfar
neu iPads syn cael eu defnyddio i greur animeiddiadau hyn mewn cydweithrediad â
beirdd.
Mae chwedlau Groegaidd a Hindŵaidd yn cael eu cynnwys yn narluniau Nalini
Malani, ac mae ei ffilm wedi’i hanimeiddion fyfyrdod tawel ar fyrhoedledd, gydar
ddelwedd yn ymddangos ac yn diflannu.
Yn fideo dyfeisgar Inci Eviner, dangosir ffigyrau dynol yn rhyngweithio ag
animeiddiad a ddarluniwyd â llaw, wrth i gyfres o ddarluniadau gan William Kentridge
ddangos y broses y tu ôl iw animeiddiadau fesul ffrâm, gan ddangos pob cam or
naratif gweledol.
Caiff gwirioneddau gwleidyddol eu trafod yn graff yn nelweddau Yun-Fei Ji ac
Otobong Nkanga, syn cynrychioli pŵer a difeddiant, ac mae byd theatrig o
berfformwyr â mygydau a gwisgoedd yn cael ei ddangos yng ngolygfeydd epig
Marcel Dzama, sydd wedi u darlunion gain.
Arddangosfa Deithiol Hayward
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English