Date/Time:
Date(s) - 15/06/2018
6:45 pm
Location: Dylan Thomas Theatre
Ystyrir cyngerdd Benny Goodman yn Neuadd Carnegie ym 1938 fel y cyngerdd jazz gorau erioed gan lawer ac mae recordiadau o’r digwyddiad hanesyddol hwnnw yn parhau i gael eu gwerthu ar finyl a chryno ddisgiau hyd heddiw. Diolch i Benny, symudodd jazz o’r neuaddau dawns, y clybiau a’r bariau jazz i’r llwyfannau cyngherddau.
Os ydych yn dwlu ar fandiau mawr, rhaid i chi weld y sioe hon. Mae’r repertoire mor arbennig ag yr oedd ym 1938 a chyda dawn gerddorol ragorol Pete Long a’r All-Star Goodmen Orchestra, gwelir egni’r sioe wreiddiol unwaith eto. I gyd-fynd ag arddull y cyngerdd gwreiddiol, mae Pete yn defnyddio hoff frwyn clarinét Benny Goodman ac mae’r drymiwr, Richard Pite, yn chwarae atgynhyrchiad manwl gywir o ddrymiau Gene Krupa a hyd yn oed yn defnyddio symbalau a brwshys gwreiddiol Gene. Mae holl ganeuon cyngerdd 1938 wedi’u cynnwys megis, Don’t Be That Way, Sing Sing Sing, I Got Rhythm, If Dreams Come True a Springtime in the Rockies.
Bydd gan Long, sydd wedi chwarae gyda Jools Holland a Ronnie Scott’s Big Band, fand mawr sy’n cynnwys y gantores Joan Viskant a’r cerddorion Enrico Tomasso, Anthony Kerr a Richard Pite wrth iddynt dalu teyrnged i’r cyngerdd hanesyddol hwn.
6.40pm
Tocynnau: £25
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories