Date/Time:
Date(s) - 07/11/2018
7:30 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Daw Brendan Cole i’r llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i gynhyrchiad gwych diweddaraf, All Night Long.
I ddathlu 10 mlynedd o deithio, bydd cast gwych o ddawnswyr gwadd, prif fenyw ddeniadol a 12 o gerddorion a chantorion hynod dalentog yn ymuno ag ef i gyflwyno cymysgedd bendigedig o ddawnsiau Lladin a neuadd. Gyda’r Tango cyffrous, y Paso Doble tanllyd, y ffocstrot cain a’r walts syfrdanol, a chydag ychydig o bethau annisgwyl hefyd, ni fydd y sioe ddawns hon yn un arferol.
“Un o’r sioeau gorau rf erioed wedi’i gweld! Creadigol, unigryw… Byddwch yn colli cyfle os nad ydych yn gweld y sioe hon.” Callum O’Brien, Norwich Eye
Bydd cerddoriaeth fyw, effeithiau arbennig penigamp, a choreograffi a swyn trawiadol Brendan ei hun yn sicrhau y bydd y noson hon yn un i’w chofio; ymunwch â ni ar gyfer y parti!
“Mae coreograffi Brendan yn cyfuno swyn y gorffennol ag actau gwych a chyffrous er mwyn cyflwyno noson o adloniant pur o’r dechrau i’r diwedd.” NorthWestEnd
Tocynnau
£32 – £40
Ni allwch archebu tocynnau ar-lein ar gyfer Theatr y Grand Abertawe o 8.30am Dydd Llun 22 Hydref tan nos Mawrth 23 Hydref oherwydd gwaith cynnal a chadw cynlluniedig. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English