Date/Time:
Date(s) - 12/09/2018 - 03/10/2018
10:00 am - 4:30 pm
Location: Amgueddfa Abertawe
Yn y 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae pobl Cymru wedi cyfrannu at ddod o hyd i heddwch? Pwy yw ‘Arwyr Heddwch’ Cymru? Sut gall eu straeon barhau i ‘ysbrydoli rhyngwladoliaeth’ heddiw… a pha gamau gweithredu y gallwn ni i gyd eu cymryd er mwyn creu byd gwell ar gyfer yfory?
Mae’r arddangosfa hon gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy’n cysylltu â chasgliadau lleol Amgueddfa Abertawe, yn archwilio sut mae effaith rhyfel wedi arwain at bobl yn chwilio am heddwch – drwy weithredoedd sy’n amrywio o goffa, protestio, cynnig lloches i ffoaduriaid, cyfnewidiadau rhyngwladol a gweithredaeth pobl ifanc. Ychwanegiad perffaith i hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o themâu ‘Nawr yr Arwr’, gydag ysbrydoliaeth i ddod yn ‘arwr heddwch’ eich hunan.
Bydd llyfr eiconig Cymru i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf – cofeb wefreiddiol a darn o gelf ynddo’i hun o’r 1920au – yn cael ei arddangos, wedi’i ryddhau’n arbennig o’i grypt yn Nheml Heddwch Caerdydd.
Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mynediad
Am ddim. Dydd Mawrth i ddydd Sul, 10am-4.30pm
Categories