
Date/Time:
Date(s) - 30/10/2019 - 31/10/2019
5:30 pm - 9:30 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Dewch os rydych yn ddigon dewr!
Slot amser 2: 7pm – 8pm
Slot amser 3: 8.30pm – 9.30pm
Bydd y profiad yn para tua 25-30 munud.
Gallwch gyrraedd unrhyw bryd o fewn eich slot amser ond byddwch yn barod i aros eich tro – caiff grwpiau fynediad fesul un, bob ychydig funudau.
__________________________________________________
Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel bob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.
Gan droedio’n ofalus, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o amgylch pob cornel? Gyda’r goleuadau wedi’u diffodd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw? A ydych yn ddigon dewr i ganfod mwy?
Beth bynnag y byddwch yn ei wneud, peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen!
Os rydych yn ddigon ffodus i ddod o hyd i’r ffordd allan, byddwch yn derbyn siocled poeth.
Argymhellir ar gyfer plant 9+ oed (oni bai nad ydynt yn nerfus)| Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
*Tocynnau (gan gynnwys siocled poeth):
Safonol £8
Consesiynau (9-16 oed) £6.50
Tocyn Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £25
Awgrymir eich bod yn cadw lle ymlaen llaw
Neu ffoniwch Grand Theatre Box Office 01792 475715
* Sylwer – bydd yn rhaid i chi argraffu’ch cadarnhad o gadw lle a’i gyflwyno wrth gyrraedd er mwyn i chi gael mynediad.
_____________________________________________________
Mae’n arswydus, felly byddwch yn wyliadwrus…
- Argymhellir ar gyfer plant 9+ oed (oni bai nad ydynt yn nerfus) | Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- Bydd y profiad yn cynnwys goleuadau laser/strôb, peiriannau mwg, mannau cul gyda goleuadau isel, lloriau anwastad (gwisgwch esgidiau addas), rhai grisiau serth a choridorau cul oherwydd natur y lleoliad, effeithiau aroglau, seiniau/cerddoriaeth iasol ac actorion a all geisio codi ofn arnoch ond ni fyddant yn eich niweidio!
Categories