Date/Time:
Date(s) - 06/11/2018 - 10/11/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
‘Has the audience on its feet, and does her memory proud’
Sioe brynhawn Mer, Iau a Sad 2.30pm.
Mae Bill Kenwright A Laurie Mansfield Yn Cyflwyno Sioe Gerdd Gan Yr Enillydd Bafta Jeff Pope
Addasiad cerddorol trawiadol a thwymgalon yw CILLA – THE MUSICAL o gyfres fer ITV yn seiliedig ar fywyd cynnar Cilla Black, a enillodd glod y beirniaid, gan yr enillydd BAFTA, JEFF POPE (The Moorside, Philomena, From The Cradle To The Grave, Mrs Biggs, Little Boy Blue).
Mae’r stori’n dilyn bywyd rhyfeddol y ferch ifanc gyffredin o Lerpwl, Priscilla White, a’i thaith ansicr ond anhygoel i enwogrwydd. Erbyn iddi gyrraedd 25 oed yn unig, roedd hi’n adnabyddus fel y gantores ryngwladol Cilla Black a byddai’n mynd ymlaen i fod yn un o hoff ddifyrwyr Prydain ar y teledu gan gyflwyno cyfresi Blind Date, Surprise Surprise a llawer mwy.
Mae’r sgôr gerddorol yn drac sain gwych i’r 60au gyda chaneuon mwyaf poblogaidd Cilla Anyone Who Had a Heart, Alfie a Something Tells Me, ynghyd â rhai o seiniau adnabyddus Lerpwl o’r cyfnod, megis Twist and Shout gan The Beatles, a dylanwadau o America fel California Dreamin’ gan The Mamas and The Papas a llawer mwy.
Tocynnau: £18.00 & £42.00 Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English