Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 03/12/2018
10:00 am - 4:30 pm
Location: Amgueddfa Abertawe
Rhagarddangosfa: 2pm
Arddangosfa wyth panel yw ‘Cofio ein Harwyr’, sy’n rhoi trosolwg o rai o arwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a ddangosodd ddewrder eithriadol ac a gafodd eu hanrhydeddu â medalau. Mae’n cynnwys astudiaethau achos ar gyfer milwyr penodol, gyda’r paneli’n nodi eu bod yn falch o wasanaethu: Yr Is-gorpral William Fuller VC; Y Prif Is-swyddog George Prowse VC DCM; Yr Is-lefftenant Rupert Price Hallowes VC MC; Y Capten John Stanley Strange DSO MC; Y Capten H W Godfrey Jones MC; a John Oliver Watkins CdeG.
Arddangosfa saith panel yw ‘Rhai Pethau Rydym wedi Anghofio eu Cofio’, sy’n edrych ar y Rhyfel Byd Cyntaf mewn ffordd wahanol, wrth-arwrol, o safbwynt menywod a oedd yn gweithio yn ystod y rhyfel, gwrthwynebwyr cydwybodol, milwyr o rannau eraill o’r Ymerodraeth Brydeinig, ffoaduriaid o Wlad Belg, gweddwon milwyr a chenhedloedd darostyngedig, y Cwrdiaid yn yr achos hwn, nad oedd ganddynt lais yn y gynhadledd heddwch.
Mynediad
Am ddim. 22 Medi – Rhagfyr 2018, 10am-4.30pm
Categories