Date/Time:
Date(s) - 01/03/2019 - 02/03/2019
11:00 am - 4:00 pm
Location: Sgwâr y Castell
Bwriedir cynnal gŵyl ddeuddydd o gerddoriaeth, bwyd ac adloniant yng nghanol dinas Abertawe ar 1 a 2 Mawrth o 11am i 4pm i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
- Arddangosfeydd ac Arddangosiadau Bwyd
- Cerddoriaeth Fyw
- Hwyl ac Adloniant
- Daffodil Dash
- Gweithgareddau difyr i’r teulu
Arddangosfeydd ac Arddangosiadau Bwyd
Bydd y strydoedd yn llawn arogl cynnyrch cartref blasus gyda phebyll mawr yn gwerthu cynnyrch lleol ac arddangosiadau coginio ar hyd Stryd Rhydychen ac yn Sgwâr y Castell dros y dau ddiwrnod. Ewch am dro o gwmpas y stondinau a phrofwch rywfaint o gynnyrch Cymreig gan fasnachwyr a fydd yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch lleol. Ac os ydych chi’n dymuno dysgu o’r gorau, ewch i’r babell fawr ar Stryd Rhydychen a mwynhau’r arddangosiadau coginio gan gogyddion enwog.
Cerddoriaeth Fyw
Bydd bandiau, corau, cerddorion stryd a dawnswyr Cymreig yn diddanu’r torfeydd ac yn darparu awyrgylch cyfeillgar i’r teulu yn ystod y dathliadau dau ddiwrnod. Yn ogystal â hynny, bydd côr ‘fflachgriw’ yn ymddangos ar y prynhawn dydd Sadwrn. Nid yw’r gerddoriaeth yn dod i ben ar ddiwedd y dydd chwaith, oherwydd bydd bariau lleol yn parhau gyda’r dathliadau tan y nos.
Hwyl ac Adloniant
Cadwch lygad am y cymeriadau enfawr sy’n crwydro, y sesiynau rygbi Didi a’r gweithgareddau celf a chrefft am ddim a fydd ar gael gan dîm Menter Iaith Abertawe ym mhabell CWTSH.
Nod didi rugby yw datblygu sgiliau sylfaenol plant yn ogystal â gwerthoedd meithrin megis gwaith tîm, parch a dyfalbarhad. Fodd bynnag, ein nod mwyaf yw i blant adael eu sesiwn didi rugby yn teimlo’n hyderus yn eu galluoedd eu hunain. Byddwn yn cael llawer o hwyl drwy gydol y dydd yn gweithio ar ein sgiliau dal, pasio a chicio, yn ogystal â chael ein cwrs rhwystr sylfaenol anhygoel! Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd ar y diwrnod!
Bydd sesiynau am ddim Tîm Menter Iaith Abertawe ym mhabell CWTSH yn cynnal gweithgaredd crefft â thema Dydd Gŵyl Dewi, a bydd paent wyneb â phefr, blociau adeiladu mawr a gemau, gan gynnwys pwll peli a llithren i blant bach.
Dewch i ymuno ag Annibendod yn ei Bws DePot – hen fws Bedford o 1961 yn nigwyddiad Croeso dros y deuddydd. Bydd gweithgareddau celf a chrefft am ddim i oedolion a phlant wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gweithgareddau’n cynnwys pompoms Croeso, llysnafedd trwyn Draig (gweithdy creu llysnafedd) a gallwch hefyd gyfrannu at flanced enfawr a fydd yn tyfu drwy gydol digwyddiad Croeso.
Cofiwch fynd i weld Draig Theatr Byd Bychan a fydd yn crwydro o gwmpas y stondinau bwyd ar Stryd Rhydychen ddydd Sadwrn, 2 Mawrth!
Daffodil Dash
Bydd ras hwyl Daffodil Dash yn ategu’r hwyl ychwanegol ar y dydd Sadwrn. O 11am, gall plant (a phobl hŷn fel ei gilydd) gymryd rhan mewn ras 120 metr o ben uchaf Ffordd y Dywysoges i Sgwâr y Castell. Bydd y 50 person cyntaf i gofrestru ar ei chyfer yn derbyn cenhinen Bedr chwyddadwy enfawr. A gallwch gofrestru am ddim!
Gweithgareddau difyr i’r teulu
Helpwch eich rhai bach i ddechrau cyffroi ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a gŵyl Croeso Abertawe gyda’r gweithgareddau am ddim sydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Maen nhw’n cynnwys chwilair gwych am Gymru a draig Gymreig i chi ei lliwio!
Lliwio’ch draig Gymreig eich hun
Chwilair am Gymru
Digwyddiadau ddathlu Dewi Sant
Marchnad Fach Feganaidd
Catrin Morrison (telynores)
Noson i ddathlu Dewi Sant
Categories
- Addysgiadol
- Bwyd a diod
- Digwyddiadau Arbennig
- Digwyddiadau i Deuluoedd
- Diwylliant
- Free
- Gweithgareddau
- Hanes
- Mawrth
- Music
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English