Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 13/11/2018
10:00 am - 4:30 pm
Location: National Botanic Garden of Wales
Mae’r artistiaid o Abertawe, Philip Cheater, Kathryn Anne-Trussler, Amy Goldring, Tom Morris, Eifion Sven-Myer ac Ann Jordan, wedi creu cyfres o ddarnau celf sy’n ymateb i baneli Neuadd Brangwyn yn Abertawe.
Comisiynwyd y paneli ym 1924 fel ffordd o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi. Dewiswyd Brangwyn, a oedd wedi gweithio fel artist rhyfel swyddogol, i greu “paentiad addurnol a fyddai’n cynrychioli tiriogaethau a rhannau amrywiol yr Ymerodraeth Brydeinig”. Cwblhawyd y gwaith ym 1932, ond cafodd ei wrthod gan Dŷ’r Arglwyddi ac felly gosodwyd y paneli yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe pan oedd yn newydd ym 1934.
Gan ymgolli yn llystyfiant ffrwythlon a chynefinoedd amrywiol y paneli a chael ysbrydoliaeth o’r Gerddi Botaneg, bydd yr arddangosfa hon yn cael ei chynnal ochr yn ochr ag arddangosfa o waith mwy yn Theatr y Grand Abertawe.
Categories