Loading Map....
Date/Time:
Date(s) - 02/03/2019
11:00 am
Location: Swansea City Centre
Bydd ras hwyl Daffodil Dash yn ategu’r hwyl ychwanegol ar y dydd Sadwrn. O 11am, gall plant (a phobl hŷn fel ei gilydd) gymryd rhan mewn ras 120 metr o ben uchaf Ffordd y Dywysoges i Sgwâr y Castell. Bydd y 50 person cyntaf i gofrestru ar ei chyfer yn derbyn cenhinen Bedr chwyddadwy enfawr. A gallwch gofrestru am ddim!
- Mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y Daffodil Dash gwrdd wrth ben uchaf Ffordd y Dywysoges erbyn 10.45am
- Gwisg – unrhyw beth Cymreig
- Mae’n rhaid i bob plentyn dan 4 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- Gwisgwch esgidiau addas.
- Bydd y ras yn dechrau ar ben uchaf Ffordd y Dywysoges gan ddilyn yr ardal i gerddwyr a gorffen wrth y llwyfan yn Sgwâr y Castell.
- Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan ar eu menter eu hunain. Nid yw Dinas a Sir Abertawe’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am salwch, anaf, colled neu ddifrod y bydd y cystadleuwyr yn ei ddioddef
- Drwy gymryd rhan, mae’r holl gyfranwyr yn cadarnhau y gellir defnyddio eu henwau, unrhyw ddarnau o ffilmiau neu luniau a dynnir ohonynt yn ystod y Daffodil Dash i roi cyhoeddusrwydd i Ŵyl Croeso neu ddigwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.
Rhan o ddigwyddiad Croeso Abertawe 2019 – Darganfod mwy
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English