Date/Time:
Date(s) - 03/03/2018
10:00 am - 4:00 pm
Location: Swansea City Centre
*Yn anffodus, oherwydd y rhybuddion o dywydd garw yn Abertawe ar gyfer y dyddiau nesaf, rydym wedi gorfod gwneud nifer o newidiadau i ddigwyddiad Croeso’r wythnos hon.*
Yn anffodus, mae Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, yr adloniant byw yn Sgwâr y Castell a’r Sioe Sant, Caneuon a Dathlu yn Neuadd Brangwyn wedi’u gohirio.
Ond mae peth newyddion da!
- Bydd yr arddangosiadau coginio byw yn dal i gael eu cynnal ddydd Sadwrn 3 Mawrth, ond byddant bellach yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Bydd gweithgareddau Pabell Fawr Cwtsh Croeso hefyd yn dal i gael eu cynnal ac maent wedi’u symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Bydd Parêd Dewi hefyd yn dal i gael ei gynnal fel a drefnwyd o 2.30pm ddydd Sadwrn 3 Mawrth!
Bydd cerddoriaeth fyw gan fandiau lleol yn eich diddanu wrth i chi bori o gwmpas yr Ŵyl Bwyd a Diod Cymreig. O 2.30pm, cewch brofi’r lliwiau, y gerddoriaeth, y symudiadau a’r dawnsio bywiog wrth i Barêd Dewi deithio o amgylch canol dinas Abertawe. Ymunwch yn yr hwyl a chwifiwch eich baneri gyda balchder.
Arddangosiadau Coginio:
10:00am Lisa Fearn , The Pumpkin Patch
11:00am Drew Fielding, pen-cogydd gweithredol o Westy’r Village
12:00pm Andrew James, pen-cogydd gweithredol o Westy’r Marriott
1.00pm: Sian Day and Rob Bowen, My Kitchen Rules
2:00pm Imran Nathoo o’r sioe Masterchef
3:00pm Alberto Viola o Westy’r Dragon
Gallwch hefyd alw heibio’r babell Cwtsh Croeso a mwynhau gweithgareddau gwych i’r teulu.
Gweithgareddau Cwtsh Croeso Menter Iaith Abertawe:
11.00am – Amser Rhigwm ac Amser Stori i Blant, Menter Iaith Abertawe
11.30am – Gweithdy Iwcalili, Menter Iaith CNPT
13.00pm – Sesiwn gydganu yn Gymraeg, Menter Iaith Abertawe
13.30pm – Gweithdy Iwcalili, Menter Iaith CNPT
Bydd Parêd Dewi 2018 yn orymdaith drawiadol drwy ganol y ddinas! Peidiwch â cholli’r dathliad Dydd Gŵyl Dewi hwn lle bydd bandiau gorymdeithio, cerddwyr stiltiau, corau o Gymru, offer chwyddadwy enfawr a cherbydau sioe â themâu Cymreig (fel dreigiau, rygbi a mwy)!
Mae’r Parêd yn dechrau am 2.30pm o Ffordd y Brenin, ar hyd Stryd Rhydychen drwy ganol y ddinas ac i lawr Stryd y Gwynt cyn dod i ben yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Edrychwch ar y map rhyngweithiol isod!
Croeso Abertawe
Categories