Date/Time:
Date(s) - 23/09/2018
11:00 am - 6:00 pm
Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Lighthouse Theatre, Pedwarawd Llinynnol Jubilee ac Ensemble Awelan Robert Marshall yn cyflwyno dathliad o fywyd a gwaith y cyfansoddwr o Abertawe, Daniel Jones.
I ddathlu pum mlynedd ar hugain ers marwolaeth Daniel ‘Dan’ Jones, y cyfansoddwr dawnus o Abertawe a chyfaill i Dylan Thomas, byddwn yn cyflwyno diwrnod o gerddoriaeth, theatr ac atgofion, gan ddathlu un o fywydau mawr Abertawe.
Mae gweithgareddau’r dydd yn cynnwys perfformiad o waith Jones, Divertimento i Bumawd Chwythbrennau (Ensemble Awelan), dau o’i bedwarawdau llinynnol (Pedwarawd Llinynnol Jubilee), perfformiad o ddwy ddrama (Reminiscences of Childhood a Warmley) a thrafodaeth banel yn canolbwyntio ar Jones a’i etifeddiaeth artistig.
Gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Vera Smart a Thŷ Cerdd.
Rhaglen
11:00 Reminiscences of Childhood
Perfformiad gan Lighthouse Theatre. Yn Reminiscences of Childhood, mae Dylan Thomas yn ail-fyw atgofion o’i blentyndod yn Abertawe, ysbrydoliaeth ar gyfer llawer o’i straeon byrion mwyaf poblogaidd. Mae Adrian Metcalfe, a aned yn Abertawe, yn arwain ei gynulleidfa ar daith ddoniol ac annisgwyl drwy dirwedd plentyndod rhyfeddol.
12:20 Divertimento ar gyfer Pumawd Chwythbrennau
Perfformiad gan Ensemble Awelan
12:45 Cinio Bwffe
Cinio ar gael yn yr Hyst.
13:45 Trafodaeth panel 1
Holi ac Ateb ar Daniel Jones – ei fywyd, ei waith a’i ddylanwad.
14:45 Warmley
Perfformiad gan Lighthouse Theatre a Robert Marshall (piano) Cafodd Warmley ei ysgrifennu gan Adrian Metcalfe a’r pianydd Robert Marshall ac mae’n deyrnged i ddau o gewri byd y celfyddydau yn Abertawe yn yr 20fed ganrif; fe’i ysbrydolwyd gan lyfr Danliel Jones My Friend Dylan Thomas. Fel Jones a Thomas, aeth Metcalfe a Marshall i’r ysgol gyda’i gilydd ac yn ddiweddarach dychwelodd y ddau ohonynt i fyw i’r ddinas i weithio ar eu disgyblaethau artistig eu hunain. Mae Warmley yn ddarn siambr hardd ar gyfer actor a phiano, yn adrodd hanes cyfeillgarwch Jones a Thomas ar wahanol gyfnodau o’u bywydau, drwy eiriau a cherddoriaeth Jones ei hun.
15:45 Lluniaeth
Lluniaeth ar gael yn Yr Hyst.
16:00 Trafodaeth panel 2
Daniel Jones – rhan o gyfnod euraidd Abertawe?
17:00 Pedwarawdau Llinynnol
Perfformiad gan Bedwarawd Llinynnol Jubilee yn yr Eglwys Undodaidd, Stryd Fawr.
Tocynnau
£25 (ddim yn cynnwys cinio na lluniaeth)
Prynau Tocynnau
Categories