Date/Time:
Date(s) - 11/11/2019
10:30 am - 12:00 pm
Location: Sgwâr y Castell
Ar yr unfed awr ar ddeg o’r unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg, ni â’u cofiwn hwy.
Ar y diwrnod hwn, mae pobl ledled y wlad yn oedi i fyfyrio ar yr ebyrth a wnaed gan ddynion a menywod dewr ein lluoedd arfog.
Eleni, beth am ymuno â ni yn Sgwâr y Castell rhwng 10.20am a 12 ganol dydd lle bydd Abertawe’n cofio am Ddiwrnod y Cadoediad. Yn cynnwys perfformiadau gan Lauren Fisher a James Oakley, ac yn dechrau am 10.20am.
Cynhelir dwy funud o ddistawrwydd am 11am.
Cantores yw Lauren Fisher sydd wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau nodedig, gan gynnwys perfformio fel unawdydd yng Nghyngerdd Gala Elusennol Flynyddol Y Lleng Brydeinig Frenhinol a Gŵyl y Cofio Dinas Abertawe.
Mae James Oakley yn gorydd gydag Only Boys Aloud, sydd wedi perfformio ym Melg, yr Iseldiroedd a De Affrica, ac sydd wedi canu gyda Bryn Terfel, Alfie Boe, Only Men Aloud ac eraill.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English