Date/Time:
Date(s) - 17/04/2019
11:00 am - 3:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Pob oedran, galw heibio
Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl calan gaeaf gan gynnwys llu o weithdai galw heibio, gweithgareddau a ffilmiau am ddim.
Dewch i greu baner enfys liwgar gydweithredol yn barod ar gyfer Pride Abertawe 2019. Dewch i greu eich baneri eich hunain i fynd adref â chi ac ymunwch â’r Glynn Vivian yng Nghorymdaith Pride ddydd Sadwrn 4 Mai. Am fanylion, gofynnwch i aelod o’r tîm neu e-bostiwch ni yn oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
O 11am, dewch i wylio cyfres 1 Adventure Time (PG) y Cartoon Network ar ein sgrîn fawr. Darllediad sy’n ystyriol o awtistiaeth.
Achofiwch fod gennym weithgareddau hunanarweinedig drwy gydol hanner tymor.
Dewch i weld gwarbaciau’r Oriel – pecynnau gweithgareddau sy’n llawn teganau synhwyraidd a chreadigol a phethau difyr i’w gweld a’u gwneud wrth i chi fynd o gwmpas yr arddangosfeydd.
Mae gennym flociau adeiladu lliwgar hefyd a gweithgareddau crefft DIY ar gynnig, yn ogystal â Llwybr Glynn Vivian a Phasbort Clwb yr Archwiliwyr lle gallwch ennill bathodynnau wedi’u dylunio’n arbennig i’w gwnïo ar eitemau.
Dewch i gael ei ysbrydoli gan ein harddangosfa Phytopia a chael cyfle i ddylunio eich tŷ gwydr tri dimensiwn eich hun gan ddefnyddio planhigion egsotig neu hofrennydd papur ar ffurf hedyn sycamorwydden i’w lansio i’r awyr! Dewch i edrych ar baentiadau’r artist Andreas Rüthi a rhowch gynnig ar dynnu eich fersiwn liwgar eich hun ar ein platiau papur.
Am ddim, galw heibio
Cyfraniad awgrymiadol £3
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English