Date/Time:
Date(s) - 21/07/2018
11:00 am - 4:30 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Yn ôl oherwydd galw mawr!
Eleni bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent yn ymuno â ni yn y castell i ddathlu ‘Blwyddyn y Môr’.
Gan gyflwyno ei gwybodaeth arbenigol, bydd cyfle i ddysgu am gymeriadau lleol sy’n gysylltiedig â’r môr a bydd arddangosfa ddiddorol iawn ar leoliadau llongddrylliadau lleol a ddigwyddodd amser maith yn ôl.
Bydd Clwb Canfod Metel Treftadaeth Abertawe hefyd yma i rannu ei sgiliau arbenigol a rhai o’i ddarganfyddiadau lleol!
A oes gennych wrthrych dirgel wedi’i guddio’n rhywle? Dewch a fe gyda chi, bydd arbenigwr archaeolegol, ein ffrind Steve Sell, wrth law i helpu i adnabod eich darganfyddiadau.
Bydd teithiau tywys o’r castell ar gael trwy gydol y dydd gan sôn am ei hanes a’i bensaernïaeth – amserau’r teithiau i’w cadarnhau.
Tâl mynediad arferol yn berthnasol.
Categories