Date/Time:
Date(s) - 16/10/2018 - 05/11/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Amgueddfa Abertawe
Mae’r artist Scarlett Crawford yn archwilio effaith deddfwriaeth cysylltiadau hiliol yn y DU.
I nodi 50 o flynyddoedd ers cyhoeddi Deddf Cysylltiadau Hiliol ym 1968, mae Tŷ’r Cyffredin wedi penodi’r artist Scarlett Crawford i arwain prosiect celf ledled y DU.
Mae cymunedau o bob cwr o’r DU wedi dod ynghyd i rannu atgofion o’u bywydau yn y DU yn ystod y 50 o flynyddoedd diwethaf ac i ddathlu’r bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’r prosiect wedi cynnwys lleisiau’r bobl y mae’r ddeddf wedi effeithio fwyaf arnynt.
Drwy weithio gyda Chyngor Hil Cymru, mae cymunedau yn Abertawe bellach wedi creu arddangosfa arbennig gan adrodd eu stori nhw.
Artist Prydeinig yw Scarlett Crawford sy’n frwd am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ei gwaith ffotograffig yn archwilio hil a dosbarth ac yn defnyddio cyfryngau sy’n seiliedig ar lensys i greu delweddau sy’n portreadu straeon pobl sydd wedi’u tangynrychioli.
Comisiynwyd First Waves: Archwilio effaith deddfwriaeth cysylltiadau hiliol yn y DU gan Bwyllgor Cynghori’r Llefarydd ar Weithiau Celf, Tŷ’r Cyffredin.
Yn ystod mis Ionawr 2019, bydd gweithiau celf a grëwyd gyda chymunedau ledled y wlad yn dod ynghyd i ffurfio arddangosfa yn Neuadd San Steffan y Senedd.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English