Date/Time:
Date(s) - 21/08/2019
3:00 pm - 5:00 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Caiff cynyrchiadau Theatr Awyr Agored eu cynnal unwaith eto ar safle trawiadol Castell Ystumllwynarth yn ystod mis Awst, un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn, gyda 2 pherfformiad gwych!
PRYNNU TOCYNAU
Y Stori
Ymunwch â Ben, bachgen 11 oed sydd am fod yn blymer, sydd wedi diflasu ar dreulio bob nos Wener yn nhŷ ei fam-gu. Y cyfan mae hi am ei wneud yw chwarae Scrabble a bwyta bresych – nid yw hynny’n hwyl iddo!
Mae Ben, sy’n llwglyd ac yn ddiflas, yn mynd i chwilio am rywbeth mwy blasus yn y gegin ac yn dod o hyd i hen dun bisgedi. Mae’r tun yn dal mwy na bisgedi; mae hefyd yn dal cyfrinach fwyaf mam-gu…
Mae mam-gu Ben yn lleidr tlysau rhyngwladol – ac mae angen help arni i gyflawni ei lladrad mwyaf hyd yn hyn, sef dwyn tlysau’r Goron!
Mae Heartbreak Productions yn eich gwahodd i ymuno yn yr antur arbennig hon, sef addasiad o lyfr llwyddiannus David Walliams ar gyfer theatr awyr agored. Ymunwch â ni, Ben a’i fam-gu ar antur gyffrous llawn hwyl. Efallai y bydd awydd bwyd arnoch, felly dewch â phicnic a gwisgwch ddillad addas ar gyfer yr awyr agored.
© Tony Ross 2011.
© Quentin Blake 2010. Licensed by HarperC
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English