Date/Time:
Date(s) - 21/10/2017 - 18/03/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
21 Hydref 2017–18 Mawrth 2018,
10am-5pm
Pris: Am Ddim
Addasrwydd: Pawb
Caiff hanes gemau fideo ei adrodd wrth ddangos casgliad consolau personol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mewn arddangosfa newydd o’r enw Gêm wrth Gêm.
Yno caiff ymwelwyr weld consolau o’r wyth cenhedlaeth sydd wedi’u rhyddhau yn y DU hyd yn hyn, a chael cyfle i chwarae rhai o glasuron y gorffennol.
Bydd datblygiad y maes ers rhyddhau’r consol gemau cyntaf ym 1973 yn rhyfeddu nifer o’r to ifanc sydd heb adnabod byd heb Nintendo.
Dechreuodd Samuel Anstee o Gaerffili chwarae gemau fideo yn ddim o beth. Cafodd ei eni ym 1972, y flwyddyn y cynhyrchwyd y consol cydnabyddedig cyntaf – Odyssey gan Magnavox. Cyrhaeddodd y dechnoleg y DU y flwyddyn ganlynol, ond yng nghasgliad Samuel mae fersiwn brin o’r consol a gynhyrchwyd yn ystod y bythefnos gynhyrchu gyntaf yn yr UDA yn Awst 1972.
Gall hanes gemau fideo gael ei rannu’n wyth ‘cenhedlaeth’. O’r genhedlaeth gyntaf yn nechrau’r 1970au; pan fyddai’n rhaid gosod sgrin blastig dros y teledu i weld y graffeg, tynnu cardiau i ganfod tasgau newydd, a chadw sgôr ar bapur hyd yn oed; i’r genhedlaeth ddiweddaraf o gemau rhithwir – mae’r arddangosfa yn cyffwrdd â phob un ohonynt.
Bydd yr arddangosfa ar agor o 21 Hydref tan fis Mawrth. Ac yn ogystal ag esiamplau o dechnoleg pob cyfnod, bydd cyfle hefyd i chwarae gemau o bob cenhedlaeth, fel Tomb Raider cynnar y bumed cenhedlaeth a Tetris ar Game Boy gwreiddiol o 1990.
Mae Samuel roedd yn dwlu ar gemau fideo, a dechreuodd eu casglu. Bellach yn ei gasgliad rhyfeddol mae esiampl o bob consol a ryddhawyd yn y DU ers 1972. Wedi cael y syniad o’u harddangos, gofynnodd am gyngor Amgueddfa Pont-y-pŵl, a gydweithiodd gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i drefnu’r Arddangosfa. Bydd yr arddangosfa i’w gweld ym Mhont-y-pŵl yn 2018.
Yn ôl un o’r ymchwilwyr, Andrew Deathe, mae’r consolau yn adrodd hanes gemau fideo, o’r dyddiau cynnar “pan oeddent yn pontio’r bwlch rhwng gemau bwrdd a chyfrifiaduron” hyd at heddiw, a’r trafod ymysg chwaraewyr ar bosibiliadau y nawfed genhedlaeth.
“Rydych chi’n sylweddoli bod un elfen gyson o hyd sef y stori. Hyd yn oed yn y gemau symlaf mae un person ceisio dinistrio rhywbeth, saethu êliyns neu ennill gêm dennis. Ond bellach mae’r dechnoleg wedi datblygu cymaint a’r gallu gennym i gynnig cymaint mwy. Rwy’n gwybod fod Samuel yn gweld gemau rhithwir yn gyfle iddo fe, o’r diwedd, fyw’r gemau – ac mae’r dechnoleg bellach yn gallu gwireddu hynny!”
Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
https://amgueddfa.cymru/abertawe/digwyddiadau/9786/Gm-wrth-Gm/
Categories