Date/Time:
Date(s) - 22/02/2019
5:00 pm - 8:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Mynediad am ddim, nid oes angen cadw lle.
Rhaglen
17:00 – 19:00 Meddiannu Llyfrgell Abertawe: ‘As Queer As Swansea’
17:00 – 19:00 Dynwared y cymeriad hanesyddol Amy Dillwyn
17:00 – 20:00 Gweithdy galw heibio Oriel Glynn Vivian: Printiau Natur Enfys
17:00 – 19:00 Gŵyl Ffilmiau LGBT+ Gwobr Iris
17:30 Cabaret Ruby Slippers yn gwisgo fel menyw.
Pride Abertawe yn Anelu am y Llawr Dawnsio
18:30 Côr Cynhwysol, True Colours
19:00 Sgwrs: ‘A Queer-Looking Lot of Women’ gan yr Athro Kirsti Bohata
Bar dros dro gan Hoogah
Meddiannu Llyfrgell Abertawe: ‘As Queer As Swansea’
Ymunwch â Llyfrgellydd Astudiaethau Lleol Abertawe, Gwilym Games, wrth iddo edrych ar amrywiol ffigurau o Abertawe a thros Gymru sydd â chysylltiadau â materion LGBTQ, yn amrywio o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw: gan gynnwys Dylan Thomas, Amy Dillwyn, artistiaid enwog megis Cedric Morris a Gwen John, a Richard Glynn Vivian ei hun.
Dynwaredwr y cymeriad hanesyddol Amy Dillwyn
Darganfyddwch Amy Dillwyn, un o gyfoedion Richard Glynn Vivian, wrth iddi grwydro’r orielau a sgwrsio ag ymwelwyr.
Gweithdy galw heibio Oriel Glynn Vivian: Printiau Natur Enfys
Galwch heibio i’n stiwdio ddysgu i greu cyfres o brintiau natur enfys, gan ddefnyddio cyfuniadau lliw a thechnegau printio. Nid oes angen profiad, a darperir yr holl ddeunyddiau. Am ddim, awgrymwn gyfraniad o £3. Croeso i bobl o bob oedran.
Gŵyl Ffilmiau LGBT+ Gwobr Iris
Casgliad o ffilmiau byrion o Wobrau Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol LGBT+ Caerdydd
Cabaret Ruby Slippers yn gwisgo fel menyw
Ymunwch â’r cymeriad afreolus o Abertawe, Ruby Slippers, wrth iddi wisgo fel menyw a pherfformio sioe gabaret untro ar gyfer Glynn Vivian gyda’r Hwyr. Gydag amrywiaeth o ganu byw a meimio yn ôl y disgwyl, bydd Ruby yn gwneud i chi chwerthin cyn pen dim.
Jermin Productions
Ymunwch â choreograffwyr o Jermin Productions wrth iddyn nhw berfformio rhagflas ar gyfer ‘Pride Abertawe yn Anelu am y Llawr Dawnsio’ – noson o ddawnsio neuadd a ysbrydolir gan Strictly ar gyfer pobl o’r un rhyw y disgwylir yn eiddgar amdani, i helpu i ddathlu PRIDE yn Abertawe. Fe’i cynhelir yn Neuadd Brangwyn ar 2 Mai.
Côr Cynhwysol, True Colours
Yn perfformio amrywiaeth o ganeuon cyfredol, nid côr traddodiadol, ystrydebol yw True Colours. Mae’r grŵp cynhwysol hwn o bobl yn canu mewn harmoni, ac yn cymryd eu cerddoriaeth o ddifri, ond dydyn nhw ddim yn cymryd eu hunain o ddifri.
Sgwrs: ‘A Queer-Looking Lot of Women’gan yr Athro Kirsti Bohata
Mae llyfr cyntaf Amy Dillwyn, The Rebecca Rioter, yn antur hanesyddol sy’n symud yn gyflym ac sydd wedi’i osod ar ddechrau oes Fictoria yn Abertawe. Ar un wedd, mae’r nofel yn ailadrodd y gwrthryfel poblogaidd pan wnaeth dynion wisgo fel menywod er mwyn dinistrio tollbyrth. Ond wrth ei darllen yng ngoleuni ymchwil hanesyddol newydd a dyddiaduron Amy Dillwyn ei hunan, nodwn stori radical am hunaniaeth hoyw a dyheadau un rhyw.
Dewch nôl cyn bo hir i weld rhestr lawn o artistiaid.
Digwyddiad ar ôl oriau am ddim yw ‘Glynn Vivian gyda’r Hwyr’ a gynhelir unwaith y mis. Yn ogystal â chyfle i ymweld â holl leoedd yr oriel, cewch fwynhau amrywiaeth o weithdai celf a chrefft, ffilmiau, barddoniaeth, cerddoriaeth fyw a pherfformiadau, gyda bwyd, diod a bar trwyddedig ar gael yng Nghaffi Glynn Vivian.
Ceir rhestr newydd o artistiaid a pherfformwyr bob mis.
Ymunwch â ni am noson gymdeithasol ar ôl gwaith neu am ddiodydd cyn mynd allan gyda’r nos a dewch i ddarganfod rhywbeth newydd yn y Glynn Vivian.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English