Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 21/10/2018
2:30 pm
Location: Amgueddfa Abertawe
Mae Locus (Richard James ac Angharad van Rijswijk) wedi cael eu comisiynu gan Amgueddfa Abertawe a Gŵyl Ryngwladol Abertawe i greu gosodiad sain mewn ymateb i wrthrychau ac arteffactau yn y ddwy brif oriel sy’n cynnal arddangosfeydd gwadd; mae’r arddangosfeydd hyn yn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf a mudiad y Swffragetiaid, gyda ffocws ar Abertawe ac ardal De Cymru.
Bydd y gosodiad yn agor gyda pherfformiad arbennig i Ŵyl Ryngwladol Abertawe o ddarnau gan Locws ar 22 Medi. Bydd y gosodiad yn weithredol yn ddyddiol (10:00-16:30, ar wahân i ddyddiau Llun) nes 21 Hydref.
Tocynnau
Mynediad am ddim
Categories