Date/Time:
Date(s) - 17/11/2018 - 23/12/2018
11:00 am - 5:00 pm
Location: Swansea City Centre
Bydd Siôn Corn yn treulio amser yn ei Groto ar Stryd Portland o 17 Tachwedd tan 23 Rhagfy i wireddu dymuniadau’r Nadolig a lledaenu hwyl yr wˆ yl.
Bydd plant yn cael eu cyfarch gan goblynnod Siôn Corn cyn cwrdd â Siôn Corn. Bydd pob ymwelydd â’r groto’n derbyn anrheg Nadolig.Hefyd bydd cyfle i gael tynnu llun gyda Siôn Corn.
Pris
£4.75 (PTL £4.25) y plentyn i weld Siôn Corn.
£5.75 (PTL £5.25) y plentyn i weld Siôn Corn a chael llun gydag ef.
Oriau agor (o 17 Tachwedd tan 23 Rhagfyr)
Dydd Llun – dydd Gwener
12pm – 5pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul
10.30am a 5.00pm
Mewn cydweithrediad â Smyths Toys Superstore
Postio llythyrau at Siôn Corn
I sicrhau bod Siôn Corn yn derbyn eich llythyr yn brydlon, ysgrifennwch ato erbyn dydd Gwener 7 Rhagfyr fan bellaf.
Y cyfeiriad yw:
Siôn Corn,
Groto Siôn Corn,
Gwlad yr Iâ,
XM4 5HQ
Bydd Siôn Corn yn ymateb i gynifer o lythyrau â phosib, yn ogystal â pharatoi ei sled ar gyfer y daith hir Noswyl Nadolig.
Yn eich llythyr, ysgrifennwch eich enw a’ch cyfeiriad yn glir a gosod stamp dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth ar yr amlen.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English