Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018
12:00 am
Location: Canolfan Celfyddydau Taliesin
Ym 1922, darlledwyd y neges gyntaf o heddwch ac ewyllys da gan blant Cymru i weddill y byd. Roedd yn cynnwys dymuniad syml – byd lle nad oes angen i “unrhyw un ohonom, wrth i ni dyfu’n hŷn, ddangos ein balchder tuag at y wlad lle cawsom ein geni drwy gasáu a lladd ein gilydd.”
Dros y ganrif ers hynny, mae pobl ifanc o Gymru wedi crynhoi eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol yn y cysylltiadau hyn â mudiadau ieuenctid ar draws y byd, wedi’u cefnogi heddiw gan Urdd Gobaith Cymru. Yn yr arddangosfa hon, ochr yn ochr â phrosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae myfyrwyr Abertawe’n rhannu eu hymatebion artistig i negeseuon heddwch y gorffennol ac yn gofyn… Beth sy’n bwysig i chi yn y byd heddiw?
Am ddim.
Categories