Date/Time:
Date(s) - 14/03/2018
7:00 pm - 10:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydym yn ei hadnabod ac yn dwlu arni.
P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n cydnabod ac yn anrhydeddu eu cyflawniadau a’u cyfraniadau neilltuol i chwaraeon trwy Wobrau Chwaraeon Abertawe.
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Fercher 14 Mawrth 2018 yn Neuadd Brangwyn.
Categorïau’r Gwobrau:
- Chwaraewr y Flwyddyn
- Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn
- Chwaraewr Iau’r Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr Iau’r Flwyddyn
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
- Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn
- Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn
- Tîm Ysgol Uwchradd y Flwyddyn
- Cyfraniad at Chwaraeon (Bydd y categori hwn yn cydnabod un gwirfoddolwr blaenllaw am ei wasanaeth hir a’i gyfraniadau parhaus at chwaraeon yn ei gymuned leol. Ni dderbynnir enwebiadau ar gyfer y categori hwn a dewisir yr enillydd yn ôl disgresiwn y beirniaid.)
Gallwch enwebu rhywun nawr a dylai’r enwebiadau adlewyrchu’r llwyddiannau a’r cyfraniadau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn unig, o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2017. Bydd y cyfnod enwebu’n cau ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017.
Gweler y wefan am mwy o wybodaeth www.abertawe.gov.uk/GwobrauChwaraeon
Categories