Date/Time:
Date(s) - 02/03/2018 - 03/03/2018
10:00 am - 4:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
*Yn anffodus, oherwydd y rhybuddion o dywydd garw yn Abertawe ar gyfer y dyddiau nesaf, rydym wedi gorfod gwneud nifer o newidiadau i ddigwyddiad Croeso’r wythnos hon.*
Yn anffodus, mae Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, yr adloniant byw yn Sgwâr y Castell a’r Sioe Sant, Caneuon a Dathlu yn Neuadd Brangwyn wedi’u gohirio.
Ond mae peth newyddion da!
- Bydd yr arddangosiadau coginio byw yn dal i gael eu cynnal ddydd Sadwrn 3 Mawrth, ond byddant bellach yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Bydd gweithgareddau Pabell Fawr Cwtsh Croeso hefyd yn dal i gael eu cynnal ac maent wedi’u symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Bydd Parêd Dewi hefyd yn dal i gael ei gynnal fel a drefnwyd o 2.30pm ddydd Sadwrn 3 Mawrth!
Crwydrwch i lawr Stryd Rhydychen, Ffordd y Dywysoges ac o amgylch Sgwâr y Castell a phrofi’r holl flasau, lliwiau ac arogleuon. Yma dewch o hyd i rai o gynhyrchwyr lleol gorau’r rhanbarth wrth iddynt arddangos eu cynnyrch cartref blasus.
Arddangosiadau Coginio
Dydd Sadwrn 3 Mawrth
10:00am: Lisa Fearn , The Pumpkin Patch
11:00am: Drew Fielding, pen-cogydd gweithredol o Westy’r Village
12:00pm: Andrew James, pen-cogydd gweithredol o Westy’r Marriott
1.00pm: Sian Day and Rob Bowen, My Kitchen Rules
2:00pm: Imran Nathoo o’r sioe MasterChef
3:00pm: Alberto Viola o Westy’r Dragon
Bydd Imran Nathoo hefyd yn dangos ei alluoedd yn y gegin yn ystod yr ŵyl, bydd yn coginio prydau wedi’u hysbrydoli gan Gymru. Ar ôl cystadleuaeth frwd, dewiswyd Imran fel un o’r 10 olaf yn rownd derfynol MasterChef 2017. Ers hynny, mae Imran wedi bod yn cynnal cyfres o glybiau swper hynod boblogaidd yng Nghaerdydd ac wrth wneud hyn mae wedi codi cannoedd o bunnoedd i elusennau’r digartref yng Nghymru. Mae’n anhygoel bod ganddo’r amser gan ei fod yn ddeintydd ac yn dad!
Os hoffech chi arddangos eich busnes bwyd neu ddiod yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso, gallwch gyflwyno cais am leiniau masnachwyr yma.
Abertawe Croeso
Categories