Date/Time:
Date(s) - 02/06/2018 - 10/06/2018
All Day
Yn ôl ar ôl gorffwys ein traed am gwpl o flynyddoedd, wedi’n hadfywio ac yn barod i gerdded!
Cynhelir Gŵyl Gerdded Gŵyr o ddydd Sadwrn 2 tan ddydd Sul 10 Mehefin 2018.
Dewch i archwilio arfordir hudol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU yn ystod Blwyddyn y Môr Cymru.
Mae gennym amrywiaeth o deithiau cerdded ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad sy’n darparu ar gyfer pobl o bob gallu a chwaeth – o deithiau llenyddol a rhai bywyd gwyllt i droeon o dafarn i dafarn a rhai hanesyddol!
Bydd y teithiau cerdded yn costio oddeutu £5 yr un.
Am fwy o fanylion ac i gadw’ch lle ar daith gerdded, ewch i gowerwalkingfestival.uk
info@gowerwalkingfestival.uk | 07340 672963
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael y diweddaraf
Gweler Taflen Gŵyl Gerdded Gŵyr 2018
Categories